Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwaethus

chwaethus

Y gwir yw fod Charles yn defnyddio'r cynorthwyon a'r geiriaduron diweddaraf a oedd o fewn ei gyrraedd, ac yn eu defnyddio'n chwaethus a beirniadol.

Teimlem ein bod wedi cyflwyno'r ddwy ddawns mewn dull gwerinol oedd yn bur ac yn ddi-ffws ond eto yn chwaethus a medrus.

Chwaethus iawn, a chyfoes.

Bocs chwaethus, ac enw'r gwneuthurwr yn gynnil mewn print aur, artistig ar gornel isa'r caead.

Tynnodd y llysiau o'r fasged a'u gosod yn chwaethus o flaen yr allor ac ar sil y ffenestri.

Trwy'n llwyddiant yn Mallorca a Llangollen mae wedi dod â chlod byd-eang inni ac i Eirlys Britton fel hyfforddwraig gyda'r weledigaeth a'r gallu i dynnu allan ohonon ni rhyw ysbryd cyntefig o'r gorffennol fel dawnswyr, a chyflwyno traddodiadau dawns Cymru mewn ffordd chwaethus a medrus i safon aruchel.

Crys chwaethus.