Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwarddai

chwarddai

Chwarddai Capten yn foddhaus, ac wrth fynd i'r leins wedi i'r gloch ganu, sibrydodd yn fy nghlust, "Ardderchog, fachgen.

O bryd i'w gilydd ymgollai Ger gymaint yn y gêm fel bod ei ddreifio'n flêr a diofal (a dim anadlydd i brofi ei wynt y dyddiau hynny.) Chwarddai am ei phen wrth ei gweld yn gafael mor dynn yn ei sêt.

Dro arall, chwarddai peilot Messerschmitt wrth weld awyren o Brydain yn ffrwydro, a'r gweddillion yn plymio fel tân gwyllt i'r môr.

Chwarddai rhai'n y dref pan sonient amdano, a'i alw yn hen ffŵl am ei fod yn siarad hefo pob anifail fel pe byddai'n blentyn.

Chwarddai yntau'n oddefgar am ben ei phrotestio brwd a cheisio'i thawelu fel y gostegai ei thad bystylad ebol mynydd.

Chwarddai nes yr oedd y dagrau yn rhedeg dros eu ruddiau a'i ochrau ar hollti gan chwerthin.