Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chware

chware

Yn awr rhaid dysgu sut i beidio a gadael i'ch gwrthwynebydd gael yr afael drechaf arnoch yn ystod rhan gyntaf y chware.

Does neb creadigol yn nhîm Lloegr a maen nhw'n rhoir bêl i ffwrdd yn rhy hawdd oherwydd tempo a steil eu chware.

Hefyd, bydd bowliwr Swydd Derby, Dominic Cork, ddim yn chwarae i Loegr yn y Prawf Cyntaf oherwydd anaf i'r gefn, ond mae'n bosib y bydd y capten, Nasser Hussain, Michael Vaughan a Craig White yn ddigon iach i chware.

O'r digwyddiad hwnnw ymlaen, un tîm oedd ynddi, ac ar y diwedd, Llanelli aeth drwyddo i'r rownd gyn-derfynol, gyda sgôr o ddeg pwynt ar hugain i dri, a'r hawl i wynebu sialens tîm arall o gryse duon--ond cryse duon o Gastell Nedd y tro hwn, a'r gêm yn cael ei chware ar faes San Helen yn Abertawe.

Chware teg i'r cyfarwyddwr, yr oedd yn athro da, a llwyddodd i ennyn diddordeb Hector yn y pwnc ei hunan yn hytrach nag yn y gobaith am unrhyw ddyrchafiad nac ennill trwy ei wybodaeth newydd.

Cês 'y nhywys o'r cae, a doedd dim gobaith chware mwy yn ystod y daith honno.

Chware teg iddo, efallai fod y grawn gwenwynig yn eithriadol o debyg i'r da.

Byw allan o fag fydde'r chwaraewyr ac, fel sipsiwn, 'newid aelwyd bob yn eilddydd'; a hynny heb sôn am y rhes o dderbyniade a chyfarfodydd swyddogol y bydde'n rhaid mynd iddyn nhw ac, wrth gwrs, y gême y bydde'n rhaid eu chware.

Ond os bydda i'n chware fe fydda i'n rhoi cant y cant a rwy'i wastad yn falch o wisgo'r crys coch.

Wnes i 'rioed chware yn y fath dywydd llethol, lle'r oedd y chwys yn tasgu dim ond wrth wneud y symudiad lleia, heb sôn am garlamu o gwmpas y lle ar ôl tipyn o bêl.

mae'r tîm yn chware gyda digon o hyder yn y gêm undydd.

Mae'n bwysig bod ni'n mynd mlân o hyn - dyw chware'n dda mewn un gêm ddim digon da - rhaid i ni wneud e am y pum gêm arall.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Rw'i'n credu'n mod i'n sâl ar y pryd a chawn i ddim chware efo'n ffrindie go iawn, felly ddyfeises i Sara.

Fe dreulies i lawer o'm amser yn ymarfer ar y traeth bach oedd yr ochor arall i'r hewl i stad Glan-yr-ystrad, ac wrth gwrs, roedd un o'm ffrindie gore, Wyndham Morgan, a'i wraig Millie, yn byw ar yr un stad--ynte yn chware erbyn hyn i'r tîm ifanc lleol.

Maen gyfle hefyd i'r bechgyn na whariodd ddydd Sadwrn i anelu at yr un math o safon a chreu yr un argraff ar Graham Henry, Lee Jones a Geraint John ag a wnaeth y 22 oedd wedi chware erbyn diwedd y gêm honno.

A llwyddiant drwy chware rygbi agored, cynhyrfus a chreadigol--dyma'r adladd a adawyd gan hyfforddiant athrylithgar pobol fel Ieuan Evans, Carwyn James a Norman Gale I orffen y flwyddyn arbennig hon, roedd y Clwb i gyflawni taith genhadol i Ganada, a dyna pryd, o bosib, y gwnaeth Carwyn un o gamgymeriade prin ei yrfa, pan fynnodd bod gwragedd y chwaraewyr i gael y cyfle i ddod ar y daith Ar y pryd, roedd iwfforia'r tymor dros bawb oedd yn gysylltiedig â'r Clwb, ac ...

ac wrth gethin gethin tyrd di hefo mi i ddangos imi lle 'r oeddech chi 'n chware, a mi awn ni heibio griff tomos iddo ddod hefo ni.

Chware teg i'r hen Shylock, 'doedd o ddim mor ddrwg a hynny.

Ar y ffordd tu allan yr oedd rhyw bump neu chwech o blant tlawd, troednoeth yn chware 'i chalon ac yn chwerthin, ac yn cyfarch ei gilydd mewn Gwyddeleg, yn y ffordd fwyaf naturiol yn y byd.

Almaenwr yn gweithio ar broject a allai chware rhan bwysig dros ben mewn rhyfel rhwng 'Germany' a Phrydain!

O fewn diwmod, ro'n ni'n chware yn erbyn 'pymtheg Montreal', ac roedd hwnnw'n brofiad nad eith byth yn angof 'chwaith.

Williams, y cawr o ail-rengwr a fu'n gapten ar Gymru ac yn chware i'r Llewod, a Howard 'Ash' Davies, cyn rengwr-blaen y Clwb a fu'n gyfrifol am ddatblygiad Delme Thomas pan oedd Howard yn athro arno yng Nghaerfyrddin.

Gallai glywed swn plant yn chware yn rhywle.