Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwarel

chwarel

Ar adeg arall roedd o'n gweithio hefo un ar ddeg o ddynion eraill mewn chwarel, hwn eto mewn lle pur wyllt, a phawb yn byw mewn cytiau a gofalu am eu bwyd eu hunain.

Defnyddio chwarel lechi Manod (Cwt-y-Bugail) yng Ngwynedd i gadw darluniau o'r Oriel Genedlaethol ac Oriel y Tate rhag cael eu dinistrio.

Y diwrnod cyntaf yr es i i'r chwarel roedd fy mam wedi prynu trowsus newydd corduroy imi, a chôt o liain gwyn.

Dwi'n cofio achlysur i Cyrnol Darbishire, cyfarwyddwr y chwarel, roi trip i bawb o'r gweithwyr i'r Wembley Exhibition, a Mam yn dweud wrtho: 'Byddwch chi'n ofalus.

Yn wir, bu un chwarel yn obsesiwn gan Bert Isaac, sef chwarel Dorothea yn Nyffryn Nantlle.

Ni raid i mi ofyn pryd ddiwethaf y gwelsoch chi blant deuddeg oed yn codi cyn y wawr i wisgo amdanynt yn y tywyllwch er mwyn mynd i weithio poncen chwarel, achos drwy drugaredd ni welsoch hynny erioed.

Bu'n gweithio mewn chwarel yn Pennsylvania, a rhyw ddeintydd croenddu'n dod yno i dynnu dannedd.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

Bellach, 'd oes dim ond un bonc yn cael ei gweithio yn chwarel Trefor, a honno wedi'i gosod i gwmni o Loegr.

ER pan ddywedodd Wiliam yn herfeiddiol na fedrai ddioddef bod yn gardotyn yn hwy yn y chwarel a'i fod am fynd i'r Sywth - yr oedd fel petai bwysau wrth ei chalon.

At Fethesda y cyfeirir yn y cwpled agoriadol, wrth gwrs, a'r olygfa a gyflwynir ynddo yw honno o chwarel lechi Y Penrhyn yn un graith enfawr ar wyneb y mynydd, yn bonciau a thomennydd ar draws y lle ymhob man.

Fel yn y llun Chwarel gyda'r marciau coch a melyn, mae'n amlygu'r cerrig ar wyneb yr adeiladau gyda lliw llachar.

Byddai 'storiau Wil Fach-wen' ar fynd yn y chwarel yd wastad, a hyd heddiw clywir rhai o'r hen chwarelwyr yn eu hadrodd a'u hailadrodd ar gongl y stryd neu yn eu cartrefi.

Gan mai cwta oedd fy ngwyliau yn y chwarel, cytunodd Dafydd William imi fynd i lawr i Gaerfyrddin i fwrw'r Sulgwyn un flwyddyn.

Canlyn ceffyl yn y chwarel oedd gwaith cymeriad arall, a'r ddau - y dyn a'r ceffyl yn deall ei gilydd i'r dim.

Datblygodd gwaith yn y chwarel yn fywoliaeth ar wahân i ffemmio i'r rhan fwyaf, er i garfan fechan ffemmio'r tyddynnod a gweithio yn y chwarel yn ystod y dydd.

Fel ym mhob man mae gan bob dyn ei waith ei hun ac felly yn y chwarel.

Roedd yna geffyl yr un mor 'gall' yn gweithio yn Chwarel Foty a Bowydd - neu Chwarel Lord ar lafar.

Ymhen rhyw ddeuddydd daeth y goruchwyliwr drwy lefel yn y chwarel a gweld nifer o sledi gwag yn sefyll yn ei cheg.

Yn anffodus collodd ei lygad wrth weithio yn y chwarel, a bu raid newid ei ffordd o ennill ei gyflog.

Wedi darfod tyllu, byddai'r tyllwr yn mynd â'i ebillion oedd wedi colli min erbyn hyn i'r efail i'w hogi, felly gwelwch fod angen gof yn y chwarel, a llawer yw'r helynt sydd wedi bod yn yr efail rhwng y gof a'r gweithwyr, fel y cawn sôn ymhellach ymlaen.

"Ond sut oedd Wiliam cyn cychwyn?" "'Rydw i'n credu i fod o dest â'i dymchwel hi, ond i fod o'n tri%o dal." "Mi gwêl i dad o hi'n chwith ar i ôl o yn y chwarel." "O, ofnadwy."

Bu'n bnawn gwerth chweil gyda'r tri gŵr da, yn olrhain hanes 'Chwarel Bryn', y cymeriadau a weithiai yno, y teuluoedd oedd yn byw o gwmpas, ynghyd a thrafod nodweddion y tirwedd a'r ardal.

Yr oedd yn rhy ffiaidd ganddo ofyn am glwt iddo wedyn, ond fe ofalodd adael i bawb yn y chwarel wybod.

'Dwi'n mynd i'r chwarel i ddysgu crefft fy nhad - gwneud setia'!'

Gan y byddai'n symud o bonc i bonc ynglyn â'i waith daethai pawb yn y chwarel i'w adnabod.

Byddent fel rheol yn rhoi tipyn o godiad yn y ffordd o'r main line i'r chwarel.

Eto i gyd yr oedd yn un o'r rhegwyr mwyaf a glywyd yn y chwarel erioed, ond rhaid dweud ar yr un gwynt na fyddai, yn ôl ei ymresymiad ei hun, byth yn rhegi.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Doedd yno ddim ond chwarel, tair ffarm a stesion gwylwyr y glannau.

Gellwch feddwl ein bod ni braidd yn gyndyn i fynd am yr archwiliad yma ar ôl gwrando ar hanesion yr hen ddynion yn y chwarel.

Ar ddechrau mis Rhagfyr y bu i Mr Allen Jones, Roci Harbour ymddeol o'i swydd yn swyddfa'r chwarel.

Yn wir daeth aml i hen geffyl mor gyfarwydd â gweithio yn y chwarel ag unrhyw un o'r dynion a oedd ynddi.

Aeth y gyntaf i Chwarel Bryn Hafod, Y Wern, Llanllechid yn ystod mis Mai, dan arweiniad Dr John Llewlyn Williams, Amwel Pritchard, "Bryn", Llanllechid a Wynne Roberts, "Bryn Difyr", Tregarth.

Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.

Cau chwarel lechi Dinorwig.

Yn y straeon am Sir Gaernarfon yr un modd, y gwragedd biau trin a bwydo'r anifeiliaid: yr oedd y chwarel yn mynd â holl egni'r gwŷr - y chwarel a'r daith hir iddi ac ohoni.

Ar y pryd gweithiwn i yn y chwarel.

Yna, ar yr awel a oedd yn dod o gyfeiriad y chwarel, clywyd corn pedwar yn seinio.

Rhyw ffyrm o Lundain oedd perchnogion y chwarel.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

Arwydd o'r deffroad newydd oedd Streic Chwarel y Penrhyn ym Methesda ar droad y ganrif, anghydfod a oedd yn seiliedig ar ddymuniad y chwarelwyr i gael undeb effeithiol i amddiffyn eu hawliau, a gwrthwynebiad Ail Farwn y Penrhyn i'r dyhead hwnnw.

Wedi inni fod yn gweithio yn y chwarel am ryw bythefnos, cawsom orchymyn i ymweld â meddyg am archwiliad, ond nid ein meddyg ein hunain.

Yn niwedd y pedwar-degau prynodd ffermwr Bryscyni, Capel Uchaf, Clynnog, geffyl a oedd wedi arfer gweithio yn Chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle, ar gyfer y cynhaeaf gwair.

Yn ôl yn Chwarel yr Oakeley eto ac yn y Gloddfa Ganol y tro yma.

Amlygir hyn yn y llun Y Chwarel lle mae'r arddull rydd i'w gweled yn effeithiol yn y ffordd y mae'r adeiladau yn toddi yn un i'w hamgylchfyd.

Ar ben y clip, chwarel galch, yn graith ar y llethr uwch ben.

Cawsant waith mewn chwarel yno, ond symud toc i Sunderland i drwsio setts ar y stryd i'r Corporation.

Yr oedd yn grefftwr campus fel y tystia'r degau o gabanau, gelltydd a chobiau a welir yma ac acw hyd wyneb y chwarel heddiw.

Mewn rhan arall o'r un chwarel roedd yna gymeriad arbennig yn canlyn ceffyl ac un diwrnod aeth i swyddfa'r chwarel i weld y prif oruchwyliwr i ofyn am godiad yn ei gyflog.

Fel pob pregethwr mae ganddo bennau i'w bregeth, ond gyda hyn o wahaniaeth: nid oes gennyf i ond dau ben i'm testun, sef y chwarel ddoe a'r chwarel heddiw.

Gan eu bod yn gorfod cerdded dros y mynydd yn ôl a blaen o'u gwaith, a'r efail mewn rhan is o'r chwarel, yn weddol agos i'm cartre', dyma nhw'n gofyn i mi fynd â'u hoffer di-fin nhw i lawr at y gof i'w hogi, a dod â'r rhai miniog i fyny'n ôl.

Dechreuodd ferwi o gynddaredd wrth feddwl eto am y chwarel.

'Chlywais i erioed mohono fo'n cwyno hefo dim afiechyd, ac mi fuo'n gweithio yn y chwarel nes cyrraedd oed ymddeol heb golli un munud oddi wrth ei waith.

Adeiladodd y carcharorion rhyfel lwybr o'r tŷ i'r chwarel y 'German road' a byddent yn gweithio yn chwarel Graiglwyd gan falu cerrig ar y mynydd, a gwylwyr yn eu martsio'n ôl a blaen.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Ymddiddorai'n fawr ym mechgyn darllengar y chwarel a helpodd lawer arnynt ar hyd ei oes.

Fy nyddiau cynnar yn y Chwarel Rydw i'n cofio dweud wrth fy athrawes:

Unwaith wedyn ar ei daith y daeth y chwarel yn fyw iawn iddo.

Mewn bwthyn bychan, yr Hafod, heb fod ymhell o Bont y Gromlech yr oedd yn byw, a cherddai yn ol a blaen i'r chwarel bob dydd.

"O Dduw!" griddfanai Wiliam, "pam na chawn innau gychwyn yr un fath?" Ac eto, fe gofiai am ei atgasedd diweddar o'r chwarel.

Rowland Hughes o gwmpas tri diddordeb bywyd tad John Davies (sef y chwarel, ei gartref a'i gapel), yn fyw o flaen ein llygaid ar y llwyfan.

Roeddwn i'n bersonol yn falch fy mod i wedi gweld tipyn ar Lanfairfechan, gan fod yr hen ddynion yn y chwarel yn dweud pethau mor ofnadwy am y lle a'i bobl.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Cychwyn streic Chwarel y Penrhyn, Bethesda.

Cofiaf pan oeddwn i'n gweithio mewn bargen yn yr hen chwarel, roedd 'na ddau fachgen o Lanfairfechan wrth fy ymyl i.

Gan fod eisiau ffyrdd roedd yn rhaid cael dynion pwrpasol at y gwaith o'u gosod, a dyna'r platelayer yn dod i fri yn y chwarel.

Daeth hefyd ran o un chwarel i gael ei hadnabod fel 'Dyfn y Ceffyl Gwyn'; tra fod llwybr yn hanes cynnar chwarel arall yn cael ei alw'n 'Llwybr y Gaseg Wen'.

Roedd y chwarel rhyw dair milltir o'r fferm, fel yr hed y frân.

'Rwyf yn teimlo fod braidd gormod o ddewis arwyr wedi bod fel testunau darlithoedd i'r Gymdeithas, a'r tro yma yr ydych am gael tipyn o hanes y chwarel a'r gweithwyr.

Un cymeriad nodedig o linach y Plemings oedd Francis, saer maen a weithiai yn y chwarel.