Ond yn yr achos arbennig yma fe welwyd yn dda i ychwanegu pwt o hanes trwy ddweud fel y byddai Laura Richards lawer gwaith yn cyrchu gyda'i chymdogesau ar Ddydd yr Arglwydd i chwarae gyda'r delyn; yr oedd yn cofio cadw ffeiriau llestri pridd ym mhorthladd Nefyn a chwarae y Bowl Haf'.' Trwy holi'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan cefais wybod mai ar y cyntaf o Fai y chwareuid y `Bowl Haf'.