Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwedegau

chwedegau

A hithau wedi cyrraedd ei deg-ar-hugain erbyn diwedd y chwedegau, roedd hi'n dechrau ymddangos fel petai Glenda Jackson yn mynd i orfod bodloni efo'r golchi llestri.

Ar ôl ymweld â hi gyntaf yn y chwedegau, pan oedd rhywfaint o weithio yno, bu yn ôl lawer gwaith ar ôl iddi gau, gan seilio cyfres gyfan o luniau arni.

Ac mae hynny'n siŵr o fod yn wir, ac yntau wedi bod yn cadw garej yn Llanystumdwy, ger Cricieth, am flynyddoedd yn ystod y pumdegau a'r chwedegau cynnar.

Ar ddechrau'r chwedegau fe ddaeth cystadleuaeth newydd i'r amlwg, sef Coflyfr.

Yn achos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'r fytholeg gynhaliol yn neilltuol o gref gan bod blynyddoedd gwawrddydd y mudiad yn cydddigwydd â ffrwydriad diwylliant ieuenctid y chwedegau, cyfnod euraid yng nghof yr aelodau cynnar sy'n cysylltu genedigaeth y Gymdeithas â rhyddid a menter eu hieuenctid eu hunain ond sydd bellach wedi ymgolli ym mharchusrwydd canol oed.

Ystrydeb erbyn hyn fyddai mynd i ormod o fanylder am ei gyrfa gynnar yn Boots a'i chyfnodau meithion yn ddi-waith yn ystod y chwedegau - degawd a dreuliodd fel actores ddi-nod a gwraig tū.

Nid oedd yn wyneb hawdd ei ddiffinio yn y chwedegau; heb fod yn giwt o blaen fel Rita Tushingham nac yn dryloyw hardd fel Julie Christie.

Ni all y Blaid ddibynnu ar frwdfrydedd torfeydd canfaswyr if anc fel yn y chwedegau i ennill etholiadau'r nawdegau.

Elfennau o'r Chwedegau sydd yma ond dyma'r union elfennau a wireddwyd yn llwyr yn yr Wythdegau mewn dull llawer mwy ciaidd.

Claddwyd ef ym Mynwent Glanadda, Bangor ar ddechrau'r chwedegau.

Bu methiant y myfyrwyr i gyd-weithio'n effeithiol gyda'r gweithwyr a'r modd y bu i brotest y chwedegau chwythu'i phlwc yn gryn siom i Schneider a nifer o'i gyfoedion.

Fodd bynnag , doedd dim un o'r damcaniaethau yn foddhaol ac, yn raddol, yn ystod y pumdegau a'r chwedegau, daeth manylion pellach am y ffurfiad.

Cyn gadael oes ddymunol y pumdegau a'r chwedegau rhaid crybwyll tri phwynt digon syml (y brychau y soniwyd amdanynt uchod).

Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.

Ar ôl i gynghorau lleol etholedig ymddangos o dan y gyfundrefn gyfansoddiadol yn y chwedegau, daeth tro ar fyd.

Ar wal un tū, sgrialwyd y slogan "Throw well, throw shell" yn niwedd y chwedegau.

Ac mae sicrwydd hefyd wedi ei roi yn ddiweddar y bydd y rhaglen cwlt o'r chwedegau, The Prisoner, yn cael ei wneud yn film ym Mhorthmeirion y flwyddyn nesaf.

Bu gan Fangor ei gyfraniad i'r maes hwn hefyd o'r dechrau bron, gydag uned ffilmiau yn anfon eitemau cyson i Gaerdydd neu Fanceinion ar gyfer 'Heddiw' yn y chwedegau cynnar.

Os torrodd y modernistas trwy dir gwyryf yn eu harbrofion gyda mydrau newydd, a chydag ieithwedd a ddaeth o Ffrainc, gwnaeth beirdd y pum a'r chwedegau yng Nghymru rywbeth tebyg gyda'u defnydd o'r vers libre.

Davies, Tryfal, Ffestiniog, a'i lwyddiant ef, efallai, gyda ymroad rhai fel Dewi Wyn Jones, oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd a'r llwyddiant ym mhrofion medrusrwydd y mudiad yn y chwedegau.

Oedd, roedd Siarad Cyhoeddus ar bedestl cadarn yn y Sir erbyn canol y chwedegau ac y mae'n parhau mor fyw a phwysig heddiw yn yr wythdegau.

Llew Jones - sy'n cael ei gydnabod fel un o feistri canu caeth Cymru - ei fod ef yn llai calonogol ynglyn â dyfodol yr iaith Gymraeg heddiw nag oedd yn y chwedegau hyd yn oed.

Fe'i magwyd yng Ngorllewin yr Almaen ond mae wedi byw yn Berlin ers y chwedegau pan chwaraeodd ran flaenllaw ym mhrotestiadau gwrth-sefydliad, gwrth- gyfalafiaeth a gwrth-imperialaeth y myfyrwyr yno.

Hyd y gwn, ni chyhoeddodd Gruffydd erioed unrhyw drafodaeth benodol ar y cwestiwn 'beth yw hanfod bodolaeth cenedl?' , cwestiwn a ddaeth yn amlwg iawn yng Nghymru yn y chwedegau.

Erbyn y chwedegau roedd mwy a mwy o 'Oruchwylwyr Trwyddedig Ymfudiaeth' yn hysbysebu eu gwasanaethau amrywiol yn rheolaidd yn y wasg, a'r Herald Cymraeg, er enghraifft, yn cynnwys asiantaethau a oedd yn canolbwyntio ar ddenu Cymru oedd a'u bryd ar ymfudo.

O ran nifer ei aelodau mudiad bychan fu'r Gymdeithas erioed, gydag uchafrif o ddim ond pum cant yn ystod y chwedegau a chynydd i'r nifer uchaf erioed (2,087) erbyn 1972-3.

Mae'n amlwg mai diwedd y cynnwrf a'r gobaith a oedd yn rhan o wleidydda'r myfyrwyr ar ddiwedd y chwedegau a barodd y loes fwyaf iddo.

Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.

Aeth y tywyllwch a distawrwydd yn bethau prin hefyd yn ystod y chwedegau.

Roedd ambell i label yn arbenigo mewn un math o gerddoriaeth hefyd, - Elektra a'r canu gwerin protest yn y chwedegau, Stiff a'r caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn y siathdegau, Factory a'r don newydd o grwpiau 'difrifol' a ddaeth yn sgil canu pync.

Cafwyd nifer o gynigion gan wahanol economwyr yn ystod y chwedegau i geisio ateb y cwestiwn hwn.

Brodor o Gaergybi ydi Bob ac wedi ymgartrefu yn Tasmania ers y chwedegau.

'Roedd y dilyniant buddugol yn herfeiddiol, yn gyfoes ac yn llawn o naws y chwedegau a'r saithdegau.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Yn un o laslanciau'r chwedegau yr ydw i'n mwynhau protest dda gymaint a neb.

Pa ryfedd iddo fynnu imi dorri gair cryfach o lawer allan o raglen a wneuthum ar dâp yng Nghwm Elan ddechrau'r chwedegau.

Hen wraig yn ei chwedegau oedd yn rhedeg y lle, o'r enw Aggie.

Ym maes canu soul, os oedd artist ar label fel Stax, Atlantic neu Tamla Motown yn y chwedegau, yna gallech fentro bod rhywbeth go arbennig ynghylch yr artist hwnnw.

Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.

Ef, yn rhinwedd ei swydd, oedd yn bennaf gyfrifol am drefnu rhain ar gyfer y bechgyn drwy'r chwedegau ymlaen.

Achos yn y chwedegau diniwed y Galaxy Dark Room Test oedd pinacl trachwant pobl ifanc gallem dybio.

Arweiniodd hyn at ryfel annibyniaeth yn y chwedegau cynnar.

Erbyn cyrraedd colegau Prifysgol Cymru dyw pethau ddim wedi gwella ers y pumdegau a'r chwedegau, fe gewch chi wneud Cymraeg, Hanes, Ysgrythur a Daearyddiaeth os ydych chi'n lwcus, drwy gyfrwng y Gymraeg a dyna ni.

Yn yr un modd, gellir dehongli Ifans yn y Chwedegau yn ofni'r bachgen mewn siaced ledr, Teddy Boy y cyfnod.