Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwedloniaeth

chwedloniaeth

Y Fam Ddaear ydyw'r hwch-fam yma, a ymddengys yn aml newn chwedloniaeth moch.

Yn 1988 symudodd hi a'i merch, Kirstie, i fyw ar stad y cyngor yn Maes y Deri, a daeth Mrs Mac yn rhan o chwedloniaeth Cwmderi.

Mae'r rhelyw o seicotherapwyr a seicdreiddwyr yn tueddu i droi at chwedloniaeth Groeg, ac at chwedlau Grimm, Aesop a hyd yn oed La Fontaine, er mwyn cael cyffelybiaethau i'w galluogi i geisio trafod a chyflwyno'r ffyrdd dyrys sydd gan bobl o ymwneud â hwy eu hunain ac â'i gilydd.

Mae rhywun tebyg yn dod i'r golwg byth a hefyd yn ein hanes a'n chwedloniaeth, Myrddin, Gwydion, Dr John Dee, Y Dyn Hysbys, David Lloyd George.

Mae menyg yn chwarae rhan yn chwedloniaeth pêl fas.

Mae'r ymateb a fu i Seren Wen ar Gefndir Gwyn a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992 yn rhan o chwedloniaeth llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar.

Hawdd gweld fod y cyfan yn ddeunydd chwedloniaeth - hawdd suddo i awyrgylch Krishna a mabinogi'r hen India.

Ar y llaw arall, ame seiciatryddion a seicolegwyr wedi hen arfer â throi i fyd chwedloniaeth i fynegi a chyflwyno eu syniadau a'u delweddau.

Mae unrhyw lyfr fel yma'n siwr o gael ei gymharu â champwaith Tolkien, Lord of the Rings - gan gofio effaith ysgytwol y chwedloniaeth honno arna' i - ac am y cymeriadau llawn a byw oedd yn poblogi Canol-y-Ddaear.

Ac am ei bod hi'n ynys ym môr y gorllewin, yr oedd Iwerddon wedi cadw mwy o'i nodweddion cenedlaethol, ac fe allai Waldo ymdeimlo, ac ymglywed, â'i hen hanes a'i chwedloniaeth gyfoethog, wrth deithio drwyddi ar gefn ei feic.

Gyda'i ddull lliwgar o adrodd stori a'i hymestyn o fodfedd i filltir, fe aeth yn rhan o'n chwedloniaeth, o'n traddodiad a mesur o'i ddylanwad ar gymdeithas yw fod ei straeon yn dal yn fyw, ymhell ar ei ôl.

Ond, yn rhyfedd ddigon, ni wnaed ymdrech i ddadansoddi neu ddehongli'n chwedloniaeth ni, yn Gymry ac yn Geltiaid, naill ai ar ffurf llên gwerin cyffredin neu yn y gweithiau a goethwyd ar gyfer eu rhoi ar glawr.

Gwedd arall ar y hehongliad rhywiolfrydig yma ar y chwedl ydyw'r ffordd y gwêl Layard y Pair Diwrnach Wyddel, sy'n gyfarwydd inni o chwedloniaeth Iwerddon, fel 'croth', sy'n arwydd o allu'r elfen famol i gynhyrchu bywyd, ac i'w ddistrywio.

Bryd hynny hefyd, fe gafodd pobol leol waith ac enwognwydd fel ecstras, gyda helyntion dau o gymeriadau mwya' lliwgar Caernarfon ar y pryd - Wil Napoleon a Mons - yn dod yn rhan o chwedloniaeth y Cofis.

Awdl alegorïol yw hon, sef awdl sy'n defnyddio chwedloniaeth i draethu neges gyfoes.

Yn ei hanfod, yn ôl chwedloniaeth y byd newyddiadurol, busnes i'r gwledydd mawr, imperialaidd yw newyddion tramor.