Look for definition of chwerthin in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
mi geuson nhw row wedyn - Mrs Robaits yn deud y basa hi wedi medru tagu i farwolaeth - ond doeddan ni ddim yn medru peidio chwerthin, roedd o mor ddoniol.
Y ddau bennill allweddol, gennyf i, yw'r rhai hyn: Mae'n chwerthin eto'n aros ar y ffordd, A'n prudd-der eto 'nghadw ar y rhiw, Ac mae'n distawrwydd o'r naill du dan glo Yng nghoffrau creigiau Arfon heb na siw na miw.
Cafodd Ben bwl o chwerthin nes ei fod yn wan wrth inni ddarllen am hyn ac hyd heddiw, pan mae na ddigon o fybls yn y bath, mae'n dal i chwarae bod yn hen wr o wlad y sebon.
Y feistres oedd y mistir yn y lle yma." (Rhyw chwerthin isel fan yma a rhai sylwadau, a barai i Meinir grawcian rhyw air o wrthwynebiad.
Gorweddodd ar y llawr ac ymrolio ar ei hyd gan angerdd y chwerthin.
Petai gen i'r amser mi fyddwn i'n gwneud gwaith ymchwil ar yr hyn sy'n peri i bobol chwerthin?
Un peth ydi bod yn fwriadol ddigri a pheri i eraill chwerthin ş mae yna orchest a boddhad yn hynny.
Mae'n dwt a destlus ac eto mae'n amlwg yn un a all chwerthin am ei ben ei hun.
Tra yn nesa/ u at y drws fe glywai chwerthin uchel ac o sbecian drwy'r ffenest gwelodd ei wraig a rhyw şr ifanc golygus yn sipian siampên ac yn amlwg yn cael hwyl iawn.
Mi fuo'r arglwydd Gruffudd yn rhy hir yng ngharchar Degannwy..." "Mab naturiol ein Tywysog..." "O waed pur Cymreig..." "Yn byw fel gwr bonheddig ers chwe blynedd bron yng ngharchar Degannwy a Sinai'n gywely iddo!" Chwerthin amrwd wedyn nes i rywun eu hatgoffa y byddent at drugaredd yr Ymennydd Mawr a'r Gwylliaid pe rhyddheid yr arglwydd Gruffudd.
Chwerthin am ei ben a wnaethom ni.
Mae'n fwy pleserus byth pan mae'r chwerthin yn codi o sefyllfa hollol annisgwyl ...
Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.
Ond pan mae o'n chwerthin, mae hynny'n arwydd ei fod o'n meddwl bod yr englyn yn un da.
Ond os ydi'ch synnwyr digrifwch chi rywbeth yn debyg i f'un i, y peth sy'n fwyaf tebygol o'ch cynhyrfu chi i chwerthin ydi gweld rhyw unigolyn bach yn y gynulleidfa sy'n edrych fel pe bai o ar dorri allan i grio unrhyw funud.
Fe wnes i chwerthin, cydymdeimlo a chasa/ u, a gweld elfennau o'r hunan ac eraill yn y ddrama.
Pe bawn i'n gallu chwerthin ar orchymyn a heb gymhelliad mi wnawn i hynny rşan, er mwyn profi i chi ei fod o'n bosib.
"Reit 'ta lads, draw i'r Sailing, a mi geith y cono pia hwn weld great balls of fire," meddai Sam a chwerthin yn uchel ar ei ddoniolwch ei hun.
Mae'r brenin eisiau dy weld pan gyrhaeddi Sipi a byddi wrth dy fodd pan glywi di ei neges." Yna i ffwrdd â fo tan chwerthin wrtho'i hun.
Am chwerthin ac wfftio fu wedyn, rhai'n methu cael eu gwynt bron, wrth feddwl am y ffasiwn beth!
Pwl arall o chwerthin mawr i ganlyn.
Mi gewch 'rwy'n siwr, bwff o chwerthin wrth ddarllen am ei hiwmor, a'i ffraethineb, y pethau doniol hynny sy'n perthyn i Charles a dim ond Charles.
Yn ei sgîl, dechreuodd yntau chwerthin.
Ofanai y clywai'r ceidwad ei chwerthin uchel a thybio ei fod yn wallgo, ond ni ddaeth neb yn agos ato.
Dagrau chwerthin oeddan nhw, erbyn dallt, chwerthin am ben y byd y bydd o'n bwrw'i lid arno fo, chwerthin nes mae'r dagrau'n powlio yn meddwl am y tir yn mynd dan y don adeg y dilyw mawr ac adeg Cantre'r Gwaelod ac adeg Ker Is.
Dyna farn amryw byd o'n milwyr hefyd, ac mae tuedd bellach i chwerthin am ben y syniad fod yr Eidalwyr yn 'gynghreiriaid' i ni.
Edrychodd y ddwy ohonom ar ein gilydd a chwerthin a chwerthin heb reswm yn y byd.
Mae'r stori hon yn ennyn ein chwilfrydedd o'r dechrau, ond nid wyf yn credu mai bwriad yr awdures oedd gwneud i rywun chwerthin yn niweddglo'r stori hon, fel y gwnes i.
Er hynny i gyd, 'rydw i'n fodlon cyfaddef y gall chwerthin fod yn llesol ac y byddai'n o druenus arnom hebddo.
Yr unig reswm arall pam y'u galwyd nhw yno, oedd i chwerthin ar un jôc amlwg yn araith Mr Blair, a chlapio ar ddiwedd ei gyfraniad.
Chwerthin wnes i pan eglurodd y ficer y cymal, ac roedd ynte hefyd yn gwenu, ond medde fe i gloi'r sgwrs.
Gwelai'r nerthoedd a adawodd eu hôl ar ei ysbryd, y bobl y bu'n byw yn eu plith ac y disgynnodd ohonynt, a'r wlad lle y bu'n chwarae , yn chwerthin, yn chwysu, yn gweithio a gweddi%o.
roedden ni'n chwerthin ar ben y gair ...
Mae chwerthin yn beth heintus, medden nhw.
Yna, yng nghanol ei ddychryn mawr, clywodd ei chwaer, oedd eiliad ynghynt wedi bod yn sgrechian am ei bywyd, yn gweiddi chwerthin.
Mentrodd ambell un ofyn iddi yn chwareus wrth fynd heibio, "Morfudd, Morfudd, beth wyt ti'n ei wneud â'r holl wlân yna?" Chwerthin yn amwys fyddai hi wedyn, heb godi'i phen a heb roi'r gorau i drotian, ond sylwai rhai ar wawr o dristwch yn ei llygaid.
Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.
Felly, tristwch oherwydd afiechyd 'i mam gafodd y bai am y diffyg chwerthin, a'r hanner ofan yn y llyged a phethe felly.
Pan roedd ei phen yn erbyn fy mrest fe'i trodd o gwmpas a phiffiodd chwerthin.
Ond fedrwn i ddim peidio â chwerthin pan gyhoeddodd Aled yn y car ein bod ni bellach yn mynd heibio i'r twnnel newydd rhwng Conwy a Phenmaenmawr am y drydedd gwaith!
A does dim ond ichi edrach drw'r rhaglenni, wel caneuon digri a phetha felly, ac er fod na chwerthin iach efo nhw chewch chi ddim hyd i'r un gair o'i le.
Chwerthin
Dyma ni 'ta ş yr eli ar y dolur o orfod cyfaddef nad ydi chwerthin yn fêl i gyd er y gall, ar adegau, fod yn ffisig da.
Yng nghanol miri'r plant fe glywid chwerthin pryfoclyd Gwenhwyfar.
Maen nhw'n chwerthin yn afreolus am ben jôcs nad ydynt yn ddoniol i neb arall.
, gan gyfeirio at Wil, a phawb yn chwerthin a chyfrannu mymryn o ffraethineb at y sgwrs, a Dic yn rhoi hergwd i ysgwydd Wil, a hwnnw'n gwenu heb falio dim.
gweddi%ais am gael bod yn un o'r merlod ar fynydd yr oerfa am byth byddai'n andros o oer yn y gaea wrth gwrs meddai Jo gan chwerthin rhyfedd bod ei lais y munud hwnnw fel cloch
Taflodd rhywun siôl sidan un o'r merched tua'r nenfwd, a daeth sgrechiadau o chwerthin oddi wrth y grşp bychan o'u cwmpas yn gwylio'r dilledyn yn hedfan i lawr i'r llawr yn araf.
"Be ydi mêc fy nghrys i Jini?" Mam druan yn atab "Dwfal", a medda nhad fel ergyd o wn - "Tydw i'n 'dwfalu' fama ers oriau!" Saib - nhad, mam, a ninnau'r plant yn sylweddoli beth oedd o wedi'i ddeud, a phawb fel côr adrodd 'Steddfod Genedlaethol yn chwerthin efo'n gilydd.
Am ryw reswm meddyliodd yn sydyn am Ellis Puw, a theimlodd ar y funud ei fod yn nes at ei was yn ei glos ffustian a'i grys gwlân nag yr oedd at y boneddigion hyn yn chwyrli%o o'i gwmpas yn eu sidanau a'u melfed a'u lliwiau llachar, a'u dwndrio a'u chwerthin.
Ond peth arall ydi bod yn gyff gwawd a chael pobol yn chwerthin am ein pennau ni.
Roedd llawer o'r un bobol wedi chwerthin lawer tro ar antics tebyg yn Saesneg mewn ffilmiau Carry On.
Dechreuodd wenu a chwerthin yn isel.
Angharad fach yn fyw i gyd ac yn chwerthin a dotio, a phawb yn wlyb doman.
Ond dechreuodd eu gosgordd, a oedd wedi bod yn gwylio'n dawel hyd yn hyn, floeddio chwerthin.
Roedd y Llewod i gyd bron â marw eisiau chwerthin am ei ben, ond ni feiddient ei ddrysu y funud honno.
Yn absenoldeb technoleg bu'n rhaid defnyddio darnau o bapur er mwyn cofnodi yr hyn a ysgogodd pobl i ymwneud â'r Gymdeithas yn y lle cynta'. Bu'r grwp yma hefyd yn edrych yn ôl ar brotestiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus - a chafwyd ychydig o chwerthin wrth glywed gan Siân Howys am y brotest waetha' a fuodd hi ynddi erioed - dim ond hi ag un dyn bach arall yr y stryd yn yr Wyddgrug.
Beth arall ellir ei wneud mewn sefyllfa fel 'na ond chwerthin, a felly y bu.
Mae'n lle peryglus iawn i fechgyn bach fel chi,' meddai gan chwerthin a dangos llond ceg o ddannedd drwg.
Ac mae'n bosib y byddwch chwithau'n chwerthin toc, nid efo nhw, ond am eu pennau nhw.
Gwallt melyn, yn donne dros i gwar hi, llyged glas tywyll yn llawn chwerthin, a gwefuse...
Tra bo BJ wedi cydio yn fy nychymyg, peri imi chwerthin yn uchel a fy ysgogi i droi'r tudalennau, ni allaf ddweud yr un peth am CJ.
Fel y byddent yn chwerthin!
'Dydw i erioed wedi gallu chwerthin am ben campau unrhyw glown a 'does yna'r un slepjan (mae'n ddrwg gen i, Syr Wynff a Plwmsan) na phei gwstard wedi gallu gwneud imi wenu hyd yn oed.
Ar y cefn roedd wedi sgrifennu, 'Philip Nore, bob amser â'i drwyn ar y maen ...' Byddai rhywun wedi chwerthin pe na byddai'n gwybod mai malais oedd y tu ôl i'r llun.
Chwerthin nes i pan glywes i am hyn gynta, meddai Gareth.
Wedyn, mi fydd pob un ohonoch chi'n cael digon o le i gysgu." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn chwerthin yn hapus.
So there!' Dechreuodd Ffredi chwerthin yn ffri ac nid oedd ar hyd yn oed Gethin ofn y chwilen hynod hon.
Sulwyn Jones.' Fel y troai Dan ymaith, clywai'r rhu o chwerthin ar draul Wmffra Jones.
Chwerthin a chwerthin ddaru ni, a finnau'n mwynhau edrych ar Bigw yn hapus, ei gwallt newydd yn siglo yn ôl a blaen fel pendil, a'i dannedd gwyn yn y golwg.
"Dydach chi ddim wedi newid ych plaid, gobeithio?' 'Na, 'dydw i ddim yn cofio imi wneud.' 'Cellwair o'n i, wrth gwrs.' Gwasgarodd Rhodri dipyn go lew o 'i gwrw ar hyd y bwrdd a' ddillad wrth i'r chwerthin chwalu allan pan oedd ar ganol cymryd llwnc.
Fe all y chwerthin creulon frifo mwy na geiriau, a gadael craith.
all yr hyn sy'n ysgogi chwerthin heddiw eich gadael chi'n gwbwl oer yfory?
Yna, pan welodd ei gyfaill yn chwerthin yn braf am ei ben, gollyngodd ei wn i'r llawr a dechreuodd daflu eira at y plant.
Yna, yn rhyfedd iawn, aeth y tafodau'n dawedog, a theimlodd pawb rhyw gywilydd o fod wedi chwerthin am ben un na wnâi ddim byd gwaeth na chadw iddi hi ei hun.
Dyma ni'n dechrau pwffian chwerthin.
Yn ystod y pwl chwerthin a ddilynodd ffraethineb ysblennydd yr athro taflodd gip slei ar y ddalen bapur o dan y llyfr gwaith.
Chwarddodd eto, yr un chwerthin gyddfol, ond yn sydyn trodd y chwerthin yn gyfog a gwelodd Llio waed yn llifo o'i cheg, ei llygaid yn troi a'r graith yn goch hyll ac yn amrwd.
Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.
"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.
Tybed nad ydyn nhw, wedi iddyn nhw gael ein cefnau ni, yn mynd i'w hystafelloedd, yn cloi arnynt eu hunain, ac yn cael ffit orffwyll o chwerthin ş am ein pennau ni?
Roedd pawb yn rhy brysur yn hel yn eu boliau ac yn chwerthin ac yn tynnu coesau'i gilydd.
Ond mynnai cymaint o lenorion fynegi eu casineb a'u ffieidd-dod at gyflwr y byd trwy ei gystwyo'n finiog, arabus a chyrhaeddgar er mwyn codi cywilydd ar ddynion a chymdeithas trwy chwerthin am eu pennau a disgwyl y newidient eu buchedd a'u harferion, nes o'r diwedd gydnabod y modd.
Sylwodd fod perwig y ffermwr o'r Bala yn simsan, a'i wraig - neu pwy bynnag oedd hi - yn ei dyblau yn chwerthin am ei ben.
Canu?" Chwerthin yn uchel wnaeth y bachgen.
Heledd yn chwerthin yn hapus, Heledd yn dywysoges drasiedi ar lwyfan tywyll.
Finne a'r gynulleidfa yn foddfa o chwerthin.
Medrent chwerthin pan fâi dduaf arnynt, a gwneud sbort am ben cyflog gwael.
'Roedd ganddi hances boced fawr, ac os oedd un o'r merched yn chwerthin yn y capel, byddai'n ei tharo'n galed efo'r hances.
Gwraig ddifrifol oedd Anti, ni chofiaf amdani'n chwerthin, a phrin yn gwneu, ac ni chredaf ei bod yn boblogaidd ymhlith y bobl ifanc.
'Rydw i eto i allu gweld rhywun sydd â'r gallu i chwerthin yn ddeniadol.
'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.
Ni allai Harri ychwaith beidio â meddwl am ei gyfoedion a'i gyfeillion, fel y byddent yn cymryd arnynt gydymdeimlo ag ef yn ei golled, ac ar yr un pryd yn llechwraidd chwerthin yn eu llewys ei fod wedi bod mor anffortunus yn ei ymdrech gyntaf i droi ei gefn arnynt hwy!
'Welaist ti'r Gwyliwr heddiw?' 'Naddo, wir.' 'Yr ydw i wedi gwneud i hyd yn oed bobol Caerfenai 'ma chwerthin,' meddai'r Golygydd, gan agor y papur a'i blygu a'i gyflwyno i Dan.
Yna piffiodd chwerthin gyda rhyw ddifyrrwch dirgel.
Mae'n siŵr y gwyddoch chi, fel finna, am rai nad ydyn nhw byth yn chwerthin.
'Wel, bydd ddistaw neu mi fyddi di wedi ei ddychryn gyda'r holl sw^n yna,' atebodd Alun dan chwerthin.
Cymerwch gasgliad diweddaraf Nesta Wyn Jones oo gerddi, Rhwng Chwerthin a Chrio.
Bigw annwyl, wyddwn i ddim p'un ai i chwerthin neu grio.
Mae allor yn y gongl yna i offrymu rhai fel chwi." Torrais allan i chwerthin a dilynodd pawb arall.