Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwerwder

chwerwder

Ychwanega'r wybodaeth hon at chwerwder eu cosb.

Edrychais arnynt yn gadael heb unrhyw fath o chwerwder, ac anelu am ddrws y stafell bwyso.

Sylweddolais chwerwder y golled a gawswn yn ei farwolaeth, a theimlais fy hun yn unig a di-gefn.

Wedi'r fath golledion arteithiol, gwaethygodd ei iechyd a soniai fwyfwy yn y pulpud ac yn ei ysgrifau am dymhestloedd geirwon, blin gystuddiau, chwerwder marwolaeth, y dywarchen olaf, lleithder y bedd, ac angau a thragwyddoldeb.

Wedi ymdrech a barhaodd am flwyddyn, a chreu chwerwder mawr, daeth streic y glowyr i ben ym mis Mawrth.

Cyfyd holl ystumiau cymeriadau Meini Gwagedd, eu dicter, eu chwerwder, eu hachwyn di-ben-draw, yn sgil eu hanfodlonrwydd i dderbyn y ffaith mai hwy sydd yn creu eu hamgylchiadau.

Mae Iwan Llwyd yn mynd â ni yn ôl i flasu eto y chwerwder a'r siom a brofwyd un mlynedd ar ddeg ynghynt wedi i Gymru droi ei chefn ar Ddatganoli.

Ynddo defnyddid gweledigaethau hynod, arwyddion a delweddau dirgel, rhifau cyfrin, a disgrifiadau nerthol i ddynodi chwerwder y frwydr rhwng y wladwriaeth a phobl Dduw; a'r sicrwydd hefyd mai gan Dduw oedd yr oruchafiaeth ac mai Iesu a gyhoeddid yn y diwedd Yn Frenin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.