Pan landiodd Begw ym Mhendre, doedd neb adra ond fy nain, a phan ddywedodd Begw fod Rondol wedi marw ac nad oedd ganddi'r un ddima i'w gladdu, ar ol paned o de, fe gafodd chweugain.
Pwy darodd Rondol arno ar y lon ond fy nhaid, ac fe ddywedodd wrtho fod Begw wedi marw ac nad oedd ganddo'r un ddima i'w chladdu, ac fe gafodd chweugain gan fy nhaid.