Chamberlain yn dychwelyd ac yn chwifio darn o bapurgan gyhoeddi 'Peace in our time'. Yn Nhachwedd cynhaliwyd 'kristalnacht', pan ymosodwyd ar Iddewon ym mhob rhan o'r Almaen.
Mae'n ddrwg gennyf orfod eich codi o'r gwely, meddai'r Arolygydd yn swta, ond mae gennyf warant i chwilio'r tŷ yma,' a chan chwifio'r papur yn ei law camodd dros y trothwy.
Syllodd y ffrindiau ar y chwilen yn chwifio'i theimlyddion yn gyffrous a'u gwylio'n troi'n goch gan ddicter!
Hwyrach na fyddai'r baneri'n dal i chwifio oni bai am y teyrngarwch personol i Fidel.
Yn drydydd roedd o'n chwifio un o'i 'sanau uwch ei ben gyda'i law chwith.
"Dy nain," meddai ei thad, gan ddal i chwifio'i hosan fel coblyn.
Golygfa fythgofiadwy gyda'r baneri yn chwifio yn nwylo'r plant bach.
Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.
Mae 'na un yn arbennig yn mynnu cael fy sylw i; yn canu'i gorn a chwifio'i freichiau fel octopys yn arwain côr cymysg.
'Dad, Dad,' galwodd Mali a chwifio'i dyrnau yn yr awyr.
Gan weiddi a chwifio'i freichiau, ymbiliodd dros y miloedd o Kurdiaid a fyddai'n marw oni châi'r lluniau eu dangos yn y Gorllewin.
Roedd edrych ar yr hen flag yn chwifio yn rhubanau yn y gwynt o flaen y fyddin - edrych yn wynebau melynion llosgedig y bechgyn, druain!
Tua chanol nos, a'r gelyn yn cysgu'n drwm yn y dyffryn isod, rhoes Gideon arwydd a thorrodd pob gŵr ei biser a dechrau chwifio'r ffagl dân a bloeddio pob un ei utgorn nes i'r dyffryn grynu.
Ofn sy' arna'i y bydd hi'n treio croesi'r ffordd yn rhywle." "Dydi hi ddim ffit," meddai Dad, gan ddal i chwifio'r hosan nes roedd pawb o'u cwmpas yn edrych yn rhyfedd arno.
Ac, fel petai i brofi ei phwynt, dyma hi'n chwifio'i breichiau.
Ac o ddec ein ty yn Nyffryn Comox, mi fydd y Ddraig Goch yn chwifio'n urddasol yn y gwynt.
Yn y fath sefyllfa roedd Joni a Sandra fel dau o bethau gwirion, yn neidio ac yn prancio, yn chwifio'u breichiau ac yn gwneud ystumiau o bob math.
Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.
Y funud y gwelodd Idris, dyma'r cawr ar ei draed, yn rhuo fel tarw, yn chwifio'r ordd uwch ei ben, a'i lygaid yn melltennu.
Gwnaed brecwast yng nghefn y tŷ lle roedd tân dan do ond ymhen ychydig funudau roedd helynt mawr y cogydd yn chwifio ei ddwylo ac yn dweud mai canibaliaid oedd yn byw yn Buganda a'r llall yn gweiddi nerth ei lais ar y cogydd mai ef a thylwyth y Jaluo yn Kenya oedd y canibaliaid.
Bydd y Ddraig Goch yn chwifio o binacl uchaf y Ddinas yma yn Christchurch a bydd rhaglenni ar y di-wifr ac ar y radio yn cyflwyno Dydd Gwyl Dewi Sant.
"Chai si chwon gehrwp ener" - gan chwifio ei bolyn sgio at ben bryn bach nepell i ffwrdd.
Crafangodd am ei lyfryn oedd ar agor a'i ddalennau'n chwifio'n y gwynt lathen neu ddwy oddi wrtho ar ganol y ffordd ond roedd Nel yno o'i flaen i'w gicio dan olwynion lori a'i sbydodd yn dipiau.
Clywn ei sŵn yn stwyrian ac yn murmur draw yno, a chyn bo hir dyma fo'n ymddangos o'i guddfan dan groesi'r llawr llydan ar ryw hanner dawns, ond wrth chwifio'i freichiau llithrodd y stethosgop o'i ddwylo dan sglefrio ar bolish y linolewm fel sarff rwberog.
Fel tae o 'rioed wedi sefyll ar lwyfan !" Fel'na bydd hi pan fyddwch chi am iddyn nhw fod ar eu gora, cysurais hi, gan wenu, "Mae'r actorion diarth na'n 'u gwneud nhw 'n nerfus." Gwelwn Enoc yn symud yn ôl a blaen wrth waelod y llwyfan, yn chwifio'i freichiau.
Yna, sylweddolodd fod un o'r bobl oedd arni wrthi'n chwifio'i freichiau'n wyllt, i dynnu'u sylw nhw.
Mae yma guro drymiau a chwifio baneri, a phlant a phensiynwyr am y gorau'n gwenu ar y camera.
Ac oedd, roedd yna ambell i Ddraig Goch yn chwifio wrth inni gerdded i'n lle i aros am y dyfarniad.
Fe'i cyfarchodd wedyn trwy chwifio'i rwyd fân uwch ei ben.
"Os na fydd gwahaniaeth gennych chi," meddai Huw, "mi drof yn f'ôl ar f'union wedi'ch rhoi chi ar y cei rhag ofn i'r nos fy nal." "Popeth yn iawn, Huw, mi fyddwn yn iawn ond cael ein traed ar yr ynys, a diolch i chi eto." "Os daw'ch Mam unrhyw bryd, fe ŵyr ble i gael gafael arna i, ac fe ddôf â hi draw ar unwaith." Diolch eto, a chwifio llaw ar Huw.
Roedd Y Ddraig Goch i'w gweld yn chwifio ochor yn ochor â baner America y tu allan i'r gwesty cyn y briodas a hynny i gynrychioli gwledydd genedigol y ddau.
gorymdeithio ar y strydoedd, baneri coch yn chwifio a Leon Trotsky yn annog pobl i fod yn barod am chwyldro.
Ers dyddia' mi dwi wedi bod yn edrych ymlaen at gael bod yn rhydd oddi wrth Lisi a Defi John, ond pan oeddan ni'n cychwyn, a finna'n chwifio fy llaw ar Mama a nhwtha yn sefyll yn y giât, O!
Ar fore heulog braf codwyd baner y Ddraig Goch y tu allan i'r senedd-dy yn dilyn caniatad gan Lefarydd y senedd, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Hunt, i'r faner chwifio yno gydol y diwrnod.
'I fyny fan acw,' atebodd Carol, gan chwifio llaw ddiofal i gyfeiriad yr awyr.