Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwil

chwil

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.

Mae Densil John yn meddwl bod mwy o ymwybyddiaeth o broblemau y digartref erbyn hyn ond mae'r problemau'n dal i fodoli: "Mae Caerdydd yn ddinas sy'n benthyg ei hun i ddatblygiad ond pwy sy'n mynd i ddod i le sydd a llwyth o bobl yn crwydro'r strydoedd yn aml yn chwil?

Yn eu plith ceir arwyddion yn pwyntio'n ddryslyd-chwil i bob cyfeiriad.

Fe fydd y ddwy ddraig yn chwil ulw beipan.

Roedd blas arbennig ar ddathliadau'r nos Calan - er i'w threulio efo llond ystafell o Saeson chwil ofnadwy!