Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwilfrydedd

chwilfrydedd

Cwmpasai chwilfrydedd hynod yr Oleuedigaeth y diwylliannau gwerinol hefyd, ac nid oedd gwladweinwyr yn ddall i anghenion ymarferol addysg dorfol.

Gwelodd rhai yn dda ganmol brwdfrydedd yr HC, a arweiniodd at chwilfrydedd cyffredinol o fewn yr ysgol.

Mae'r stori hon yn ennyn ein chwilfrydedd o'r dechrau, ond nid wyf yn credu mai bwriad yr awdures oedd gwneud i rywun chwerthin yn niweddglo'r stori hon, fel y gwnes i.

Roeddwn yn llawn chwilfrydedd.

Chwilfrydedd.'

Cefais yr argraff o'r hyn a wyddwn fod cymaint o hap a siawns yn perthyn i hanes y teulu nes rhyfeddu fy mod ar dir y byw o gwbl a'm bod yr hyn oeddwn.Roedd fy chwilfrydedd yn fawr.

"Dyn ta dynas?" Heb fedru atal ei chwilfrydedd ddim mwy.

Fel rheol, pwysleisiant mai sylfaen meithrin medrau yn yr amryfal agweddau ar y cwrs addysg yw cynnig profiadau dysgu uniongyrchol sy'n hybu diddordeb, chwilfrydedd a mynegiant plant ifanc.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Ai chwilfrydedd?

Mae'n wir i amryw un, o Saunders Lewis i Hywel Gwynfryn (yn Melltith ar y Nyth), ailgyflwyno'r chwedlau yn y Mabinogi mewn modd sy'n denu chwilfrydedd meddylwyr Freudaidd neu Jungaidd, gyda'u diddordeb yn y wedd rywiol i bethau, a'r amwysedd a'r diffyd rhesymolder sydd yn y chwedlau ym mherthynas pobl neu greaduriaid â'i gilydd, a'r symud sydd rhwng y byd greddfol, anifeilaidd, a byd dynion a'u defodau a'u hawydd i roi trefn ar bethau.

'Ffraeo nid dadlau', pwysleisiai Gwyn, 'dyn oedd o wedi graddio mewn cymdeithaseg a dim chwilfrydedd yn agos i'w groen o'.

Ond ar y cyfan nid yw'n nofelwyr hanes yn gweld hanes fel proses, dim ond fel ffynhonnell ar gyfer storiau difyr, gyda'r dieithrwch cyfnod yn ychwanegu rhyw elfen egsotig sy'n ennyn chwilfrydedd.

Gobeithiwn y medrwch ennyn brwdfrydedd a chwilfrydedd yn eich disgyblion a datblygu ynddynt ffordd feirniadol a chreadigol o feddwl, yn ogystal â datblygu eu sgiliau cyfathrebu a sgiliau ymarferol labordy a gwaith maes.

'Beth ydyn nhw?' holodd Bleddyn gan fethu â chuddio'i chwilfrydedd.

Mae'n amlwg fod gan Dewi Mai lygad dyn papur newydd" i weld pa dactegau fyddai'n ennyn chwilfrydedd y darllenwyr ac yn denu gohebiaeth i'r papur.

Wrth ystyried y pethau hyn, cododd baich mawr ar fy nghalon dros y bobl hyn - baich a wthiodd y chwilfrydedd arwynebol, a'm hofnau naturiol o'r neilltu.

Roedd hwn yn gyfnod o chwilfrydedd mawr ynglŷn â'r gofod, yn enwedig yn Rhos-y-bol am fod un o hogia'r pentra, Glyn Pen Parc, yn un o brif hogia'r orsaf yn Cape Canaveral.

Nid ychwanegiadau pert yn unig yw'r lluniau hyn, ond estyniad ydynt o dasg ganolog yr awdur o ennyn chwilfrydedd y plentyn.

Ond un diwrnod dechreuodd y gwni%ad ddatod, ac fel pob plentyn arall am wn i, aeth fy chwilfrydedd yn drech na mi.

Efallai mai dyna pam na synhwyrwn i ddim, dim hyd yn oed chwilfrydedd.