Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwim

chwim

Roedd hyn yn gofyn am symudiad corfforol chwim, a chefais fy hun yn rhydd o'm trallod fel ag yr oedd y gadair nesa'n cyrraedd.

Fe'i hadroddodd droeon yn y Seiat, yn enwedig y llinellau sy'n gwahodd angau i ddynesu, nid fel 'Ergyd dryll neu fom yn sydyn chwim', ond fel

Haeddai sylw ysgafn atebiad ysgafn bob amser, ac yr oedd rhywbeth cyffrous-beryglus mewn chwarae deufel lafar gyda gwrthwynebydd mor finiog a chwim ei feddwl â Hywel Vaughan.

Doedd dim ond dweud celwydd amdani: '...,' meddwn, '...' Fodd bynnag, dyma'r trên yn chwislo, a llawer yn gorfod gadael y ciw cantîn yn waglaw, y porteri yn galw ar i bawb frysio a dyma ni unwaith eto ar yr 'olwynion chwim'.

Mae'n rhaid imi'ch llongyfarch, Marged, am feddwl chwim yn gwneud esgus dros fod yn ei dŷ, ond roeddwn i wedi eich clywed yn blaen yn son am y sachaid bwyd, ac yn gwybod mai wedi dod yno i chwilio roeddech chi." Gwridodd Marged at fon ei gwallt.

Os oedd hi'n ddydd gŵyl arnom a'r haul yn tywynnu ar bob anturiaeth, yn sydyn - chwim cyrhaeddai Talfan fel cwmwl yn taflu'i gysgod i oeri'n brwdfrydedd ac i dywyllu'n sbri.

Ei waith oedd bugeilio ei bobl grwydredig, er iddo drugarhau wrth y wraig Syropheniciaidd chwim ei meddwl a rhoi i'r 'cŵn anwes' - dyna, mae'n debyg, yw ystyr y gair a gyfieithir cŵn' (ym Marc vii.

Roedd un o'r strabs yn ein plith yn meddu ar feddwl chwim a synnwyr digrifwch braidd yn anarferol.

Ni all Darfu'r tawelwch nac amharu dim Ar dreigl a thro'r pellterau sydd o hyd Yn gwneuthur gosteg a'u chwyrnellu chwim.

I ddechrau, dywed rhai fod cyfnod o ddatblygiad economaidd chwim yn anhepgor ar ôl dinistr rhyfel; a bod hyn, yn enwedig yn Ewrop a Japan, wedi bod yn sbardun canolog i dwf economaidd.

Cofion gorau, Lludd Cludwyd y llythyr gan negesydd ar geffylau chwim rhwng y ddwy brifddinas.

A phe gwelid ein planed fechan ni gan rywbeth yn un o'r galaethau hyn, byddai hithau hefyd yn chwyrnellu draw oddi wrtho yr un mor chwim a'r un mor ddistaw, trwy'r 'mudandod mwyn'.

Nid oes ganddo'r uchelgais i dorri cyt fel meddyliwr neu athronydd, er y gall fod ganddo feddwl chwim ac athroniaeth dreiddgar; a thybiaf finnau nad oedd mewn rhai cyfeiriadau neb llymach ei ddeall yng Nghymru yn ei genhedlaeth na Waldo Williams.

Bydd y cerdyn yn troi'n chwim ar ei echel ac os gwyliwch yn ofalus, bydd y pysgodyn yn ymddangos fel petai yn y bowlen.

Daeth llif o feddiant o gyfeiriad y blaenwyr, ac ar ôl symudiad chwim, aeth y bêl i ddwylo'r gwibiwr J.

Mae llawer o'r cynyrchiadau ar y sianel ddigidol yn fyw felly mae angen i'r cyflwynwyr feddu ar feddwl chwim a pheidio â cholli eu pennau: her y mae'r criw talentog yn fwy na pharod i'w chwrdd.

'Chwyrnellu chwim'.

Oherwydd y pwysau ychwa- negol, fydd y car ddim yn tynnu cystal ag arfer, ni fydd mor chwim yn codi cyflymder nac mor effeithiol yn arafu.

Neidiodd yn chwim allan o'r gwely a brysio o'i llofft at ffenest y gegin.

Ac mae'r trwch o golur yn cuddio ymennydd chwim a chalon fawr.

Hyfryd ydyw cael eistedd yn dawel ar lan afon neu lyn, a gweld y pysgod yn codi i ddal y clÚr, a'r adar, ar adenydd chwim, yn cystadlu â hwy i ddal y tamaid blasus.