Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwiorydd

chwiorydd

Daeth tymor Cymdeithas y Chwiorydd i ben gyda gwibdaith ar nos Wener lawog ym mis Mai.

Ar ôl dysgu am seintiau Ynys Llanddwyn a sylwi ar fanylder darluniau botaneg y chwiorydd Massey, denir yr ymwelydd i mewn i stiwdio Charles Tunnicliffe ym Malltraeth.

Fel gwraig i fanijer pen-pwll Tyn-y-bedw roedd ganddi'r statws angenrheidiol i gael y fraint o arllwys te wrth un o'r byrddau adeg unrhyw barti a gynhelid yn y festri, swydd o urddas i'r dewisol o blith y chwiorydd.

Digon o chwiorydd gwan i'w cynnal a'u cysuro!

Ar gwahaniaeth cymeriad hwn yw sail y gred yn Westring, a rhai trefi eraill sy'n rhyddfrydol eu barn, ei bod hi'n wahanol i'r chwiorydd eraill sy'n denu Samsoniaid cefnog i'w parlyrau o flwyddyn i flwyddyn.

Rhoddi tro drwy fynwentydd y cedyrn a gwympasant - a sefyll ar rai o'r meysydd a'r llanerchi ag ar ydym yn y pedair blynedd a basiodd mor gynefin â'u henwau ag yr ydym ag enwau ein mamau a'n chwiorydd, ar tai y'n ganwyd ynddynt.'

Gwelsom chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levi's.

Ni ddychwelodd i fflat Fred yn Stryd Alma, ni chysylltodd â'i mam na'i chwiorydd ac ni welodd ei phlant na neb arall hi hyd y dydd heddiw.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Nid wyf wedi llwyddo i ddarganfod fawr o hanes yr ysgol hon er fy mod yn gwybod bod rhai o ferched Llannerch Gron, chwiorydd fy nhaid, wedi bod yno.

Diolchwn hefyd i'r chwiorydd a fu'n gyfrifol am stondin y Tabernacl yn y Bore Coffi heb anghofio y rhai a ddaeth yno i gefnogi'r achos.

Gwn fod un o chwiorydd tad fy mam yn briod a gwr o'r enw Pearson ac iddynt fynd i fyw yn Heol Jwbili, Cwmaman, Aberdar, lle yr oedd Mr Pearson yn mwynhau tipyn o fri lleol ar bwys ei allu anghyffredin i dyfu rhosynnau hyfryd.

Felly pan ddaeth y gwahoddiad i ymweld â brodyr a chwiorydd o Gristnogion yn Tsiecoslofacia, mae'n rhaid dweud i rhyw fflam o ysbryd anturus godi yn fy nghalon.

Er bod ei deulu'n dlawd cafwyd arian annisgwyl a ddefnyddiwyd i roi addysg a hyfforddiant i'r unig fab ymhlith wyth o chwiorydd.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Yn rownd gyn-derfynol y merched yn Wimbledon heddiw, bydd y chwiorydd Williams, Venus a Serena, yn wynebui gilydd ac enillydd y llynedd Lindsay Davenport yn chwarae yn erbyn Jelena Dokic - sydd ddim ymhlith y detholion.

Arhosodd Mary yn fflat Fred y noson honno wedyn, a bu'n cysylltu ag un o'i chwiorydd yn gofyn i honno chwilio am dŷ iddynt a holi am waith i Fred naill ai yn Birmingham neu yn Daventry.

Cafwyd yr arian gan deulu goludog yr oedd un o chwiorydd fy nhaid wedi ei wasanaethu fel morwyn nes gorfod gadael am ei bod yn disgwyl baba.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Ar noson Cwrdd Chwiorydd ers llawer dydd, lwmp o gaws a phwdin reis i'w ganlyn oedd y rhagbaratoad a adawyd gan Magwen Williams i'w gŵr a'i phlentyn.

Nid yw'n syndod fod plant ar ben heol yn ceisio denu milwyr i gysgu gyda'u chwiorydd - a'u mamau hefyd, fel y clywais.

Fe allai chwiorydd bach fod yn niwsans glân ambell waith.

Gwyddwn fod yna frodyr a chwiorydd a oedd yn dioddef pob math o bethau mewn gwledydd comiwnyddol, yn syml oherwydd eu bod yn credu yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr.

Mae'r rhestr yn cynnwys brodyr a chwiorydd, a'u plant, a'u plant-yng- nghyfraith, cefndryd a chyfnitherod.

Eleni, torrodd y chwiorydd dir newydd mewn ymdrech i godi arian ar gyfer coffrau'r eglwys.

Fe welson ni chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levis glas.

Mae mam yn rhywle gan bob un o'r bechgyn hyn - a thad, a chwiorydd, a brodyr - wedi colli, mae'n dra sicr, lawer deigryn ers pan adawsant eu cartref - wedi treulio llawer noswaith heb gysgu.

Y bwriad oedd ceisio cwrdd â brodyr a chwiorydd yn y ffydd, a'u calonogi mewn rhyw ffordd.