Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwistrelliad

chwistrelliad

Fel ag iodin cyffredin, pan roddir ffurf ymbelydrol o iodin i berson, mewn diod neu drwy chwistrelliad, bydd canran sylweddol ohono yn cael ei amsugno gan chwarren y thyroid cyn cael ei ryddhau i'r corff fel hormonau.

Er ned oedd neb yn hidio amdano, doedd dim amheuaeth na allai'r Trysorlys fynd ymlaen yn hir heb chwistrelliad o arian o rywle.

Rhaid oedd dechrau gyda chwistrelliad ysgafn o arsnig (Itchigo--dogn rhif un) yn gymysg â bismwth, ac yna gryfhau'r ddogn yn raddol iawn fel y deuai'r corff i gynefino â'r gwenwyn.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Caiff pob adyn chwarae teg yma, heb na dafad na buwch i'w bori a'i sathru a heb unrhyw chwistrelliad angheuol o chwynladdwyr.

Yn Llys y Goron, Caer-wynt, ddydd Llun diwethaf, cosbwyd Dr Brian Cox â blwyddyn o garchar wedi ei gohirio am fwrdro gwraig trwy roi iddi chwistrelliad marwol o botasiwm chloride.