Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwithig

chwithig

ohonynt fel hyfforddiant i ymladdwyr ac arweinyddion ifainc.' Rhaid oedd atgoffa Geraint o'i ddyletswyddau ac y mae rhywbeth chwithig fod tad oedrannus yr arwr yn gorfod ei gyrchu adref i ymgymryd â'i briod alwedigaeth.

Ac o achos hyn a rhesymau eraill, yr ydym mewn llawer lle wedi cadw'r ymadroddion Hebraeg, er y gallant daro braidd yn chwithig yng nghlustiau y rheini nad ydynt wedi ymarfer yn dda â hwy ac ymddigrifo hefyd yn ymadroddion persain yr Ysgrythurau Sanctaidd.

Mae colli darn cyfarwydd o ddodrefn yn gwneud i bawb deimlo ychydig yn chwithig, hyd yn oed i'r rhai oedd wedi bygwth rhoi bwyell trwyddo ers blynyddoedd.

Er eu trwyddedu, fodd bynnag, 'roedd cryn wrthwynebiad i'r Beiblau Saesneg hyn, gan eu bod yn cefnu'n aml ar destun cyfarwydd y Fwlgat, a chan fod eu Saesneg cartrefol yn taro'n chwithig onid yn gableddus ar glustiau a ymhyfrydai yn sŵn mawreddog, litwrgi%aidd y Fwlgat Lladin.

Mae'r arddull yn fwriadol 'fodernaidd', ac yn chwithig ac yn gwirclyd iawn ar brydiau.

Rhaid cyfaddef fod y ci yma nawr rywsut yn clytio peth ar ei unigrwydd chwithig ar ol colli'i wraig.

Pan gydiai fy mam yn ei llyfr hi, fodd bynnag, credaf mai o chwithig, megis, yr edrychai arno.

Erbyn heddiw y mae rhai o'i ddadleuon yn taro braidd yn chwithig ond y maent yn ddiddorol er hynny.

Ac roedd y tro chwithig hwn yn ei boeni.

Rhai ohonynt yn siarad yn ddi-baid, eraill yn chwithig a thawel.

Daethpwyd o hyd i'r perthynas a daeth allan yn edrych fel Kentucky Minstrel tu chwithig allan gan fod ei wyneb yn glaerwyn efo'r blawd ac o gwmpas ei lygaid a'i weásau yn ddu.

Haydn Lewis, pryddest eiriog a chwithig ei chystrawen ydyw.

Mae'n beth chwithig, fod bynnag, bod yr ymadrodd yn dod yn union ar ôl paragraff sy'n trafod cariad rhwng mab a merch, cariad sy'n arwain at briodas.

Yn chwithig braidd, y gwr a adfywiodd y cof am Penri oedd yr Eglwyswr piwus, Anthony a\ Wood, bywgraffydd cynfyfyrwyr Prifysgol Rhydychen a dyn y dywedwyd amdano 'na ddywedodd air da am neb erioed'.

Ac yn fwy chwithig fyth, peth cyffredin iawn oedd i'r goresgynnwr ei weld ei hun fel cymwynaswr yn rhannu ei gyfoeth diwylliannol ei hunan â'r tlodion.

Nid yw'r un i ddysgwyr mor gyfoethog ei ddisgrifiadau a'i fanylion ac roedd braidd yn chwithig i mi ei ddarllen - dim hanner mor naturiol a'r fersiwn i blant Cymraeg iaith gyntaf.

Er bod teimladau dwys ac ingol y tu ôl i bryddest fuddugol L. Haydn Lewis, pryddest eiriog a chwithig ei chystrawen ydyw.

A gallai'r coetsmon ddynwared Cymraeg chwithig Catherine Edwards i drwch y blewyn.