Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyldro

chwyldro

Euthum i Miami, lle mae hanner ohonyn nhw'n byw, er mwyn holi'r gŵr sy'n cael ei ystyried fel arweinydd y chwyldro nesaf yng Nghuba.

`Mae undod Arabaidd yn dibynnu ar genhedlaeth newydd'; `Ni yw'r genhedlaeth i wneud hyn oherwydd ni yw cenhedlaeth y dicter'; `Rhaid i ni gael chwyldro i ennill rhyddid i'r byd Arabaidd'; `Dylai America losgi yn uffern'.

Fe aethon nhw ati i ddinistrio pob agwedd o'r ugeinfed ganrif yn enw'r chwyldro, gan gynnwys cael gwared ar grefydd, arian a chysylltiadau teuluol.

Gwyddai pa anghyfiawnderau yr oedd am eu dileu, ond pa fath o gyfundrefn a fedrai weinyddu'r chwyldro?

Flwyddyn yn ôl, roedd Cadeirydd y Bwrdd newydd wedi cael ei ddewis a Dafydd Elis Thomas yn gwneud y rownds cyfryngol, yn addo chwyldro.

Gyda'r Chwyldro Diwydiannol llifodd cannoedd o filoedd o Gymry i'r ardaloedd diwydiannol gan ddwyn eu hiaith, eu crefydd a'u gwerthoedd gyda hwy.

Pan ymddangosai'r rhain o flaen y camera, llifai sloganau adnabyddus y chwyldro o'u cegau.

Roedd Pol Pot a'r Khmer Rouge am gyflwyno chwyldro comiwnyddol i'r wlad.

Cyn y chwyldro, prin yr oedden nhw'n cael gadael eu cartrefi.

Y Chwyldro Comiwnyddol yn ffrwydro yn Rwsia, a Lenin a Trotsky yn dod i rym.

Yn ôl un o'r meddygon, newidiodd patrwm y clefydau ar ôl y chwyldro.

Mae anghofio'r wybodaeth a enillwyd drwy'r chwyldro mawr mewn dysgu iaith a ddigwyddodd yng nghanol y ganrif hon yn golygu taflu'r allwedd i ffwrdd.

Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.

Yr oedd yr Wyddgrug yn ddyledus am ei llwyddiant i'r chwyldro diwydiannol a chyfoeth mwynol y gymdogaeth.

Rhannau o Gymru yn croesawu'r chwyldro yn Rwsia.

Fe allech gredu eich bod yn Beirut neu yn un o wledydd America Ganol ar gyfnod o chwyldro!

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y chwyldro diwylliannol yr ydym yn arfer cyfeirio ato fel y "Dadeni Dysg" i'w anterth.

`Yr hyn yr ŷn ni'n ei garu, rŷn ni'n ei warchod.' Dyna i mi oedd hanfod y chwyldro yn Ciwba, a hwnnw'n cael ei adlewyrchu ymhobman, yn y gofal dros bobl, a thros blant yn arbennig.

Ond yn ystod ac ar ôl yr Ail Rhyfel Byd, gwelwyd chwyldro arall yn camu ar draws cefn gwlad Cymru ac yn wir ar draws y rhan helaethaf o'r Byd Datblygiedig - sef yr Ail Chwyldro Amaethyddol - chwyldro oedd yn aml mewn gwrthdrawiad ag egwyddorion cynaladwyaeth.

Mae'n ddiddorol, er hynny, fod Stalin, hyd yn oed, yng nghanol berw'r Chwyldro Comiwnyddol wedi gorfod rhoi ystyriaeth i athroniaeth cenedlaetholdeb.

Roeddwn i'n credu ei bod yn hen bryd gweld sut yr oedd pobl Ciwba'n byw ar eu tir eu hunain a cheisio dadansoddi peth ar y chwyldro.

Bydd sawl llyfr yn cael ei sgwennu am yr holl halibalw^. Mae rhai yn cymharu'r bennod annisgwyl hon yn hanes yr Ynys Werdd â chwyldro Ffrainc, a'r uchelwyr gorfalch yn cael eu dymchwel.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Tybed a fyddech chwi'n cytuno mai gywyddoniaeth a'i llawforwyn weithredol, technoleg, fu'r cyfrwng pennaf i newid, yn wir, drawsnewid, ein byd a'n cymdeithas, byth oddi ar Chwyldro Wyddonol yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg?

Rhai o'i gwendidau sylfaenol yw nad yw'n cynnwys y sector preifat sydd heddiw mor ddylanwadol ym mywydau pobl Cymru ac nad yw chwaith yn ystyried y chwyldro technolegol sydd wrthi yn trawsnewid holl ffurfiau cyfathrebu ac yn awtomeiddio gwasanaethau.

Er gwaethaf methiant y Chwyldro, nid adferwyd yr hen drefn ieithyddol yn llwyr.

Mae Gogledd India o ffenestri'r tren yn hollol fflat, gyda pheth coed, ond hefyd yn dangos cryn effaith y 'Chwyldro Gwyrdd', oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r tir yn dir ar.

Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol.

Ar ddiwrnod cynta'r ffilmio; fe wrthododd ganiatâd inni ffilmio murlun anferth o Che Guevara yn Sgwâr y Chwyldro, gan esbonio fod y llun ar ochr pencadlys gwasanaethau cudd y wlad.

Yn ddiweddar bu'r Athro Brinley Thomas yn dangos mai'r chwyldro diwydiannol a gadwodd yr iaith Gymraeg yn fyw yn ail hanner y ganrif ddiwethaf.

Ei groeso i'r Chwyldro Ffrengig a barodd i Edmund Burke sgrifennu ei Reflections.

'Doedd y chwyldro ddim yn boliticaidd i gyd.

Y mae llawer o'r bobl hynny y meddylir amdanynt fel Cymry - glowyr y de er enghraifft - yn ddisgynyddion i Saeson a ddaeth yma i weithio yn nyddiau'r chwyldro diwydiannol.

Ysgrifennodd yr hanesydd Herbert Butterfield, yn ei lyfr The Origins of Modern Science, : " Mae Chwyldro Wyddonol yr unfed ganrif ar bymtheg yn bwysicach na dim a ddigwyddodd ers cychwyn Cristionogaeth.

Chwarae teg i'r Llywodraeth, trwy ryw bedair canrif o lywodraethu Cymru, er pob tro ar fyd, er pob newid ar ddull y Senedd a moddion llywodraeth, er pob chwyldro cymdeithasol, ni bu erioed anwadalu ar y polisi hwn o ddiddymu'r iaith Gymraeg yn iaith weinyddol mewn na swydd na llys nac unrhyw ysgrif gyfreithiol.

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Ar ddechrau'r chwyldro, cafodd aelodau eglwysig eu herlid, yn rhannol oherwydd eu ceidwadaeth a'u rhagrith honedig, ond hefyd gan eu bod wedi rhoi lloches i wrthwynebwyr y chwyldro yn eu haddoldai.

Daeth yn amlwg fod egwyddorion y chwyldro yn rhan bwysig o addysg yr ysgol hon, hefyd, wrth i'r plant ddechrau adrodd:

Hitler yn cael ei gymryd i'r ddalfa yn Munich wedi iddo geisio arwain chwyldro.

Er fod yna nifer o gamgymeriadau blêr fyddain gwylltio puryddion (ers pryd mar Gorkys yn dod o Ogledd Cymru?!), ar y cyfan maen gofnod difyr, manwl a hawdd ei ddarllen nid yn unig o ddatblygiad anhygoel cwlt Cerys, ond hefyd o'r chwyldro cerddorol gymerodd blynyddoedd i'w lunio.

Fe greodd hynny chwyldro.

'Rhaid i ni gael chwyldro i ennill rhyddid i'r byd Arabaidd.'

Mae BBC CHOICE Wales yn cynrychioli chwyldro, llam anferth i'r oes ddigidol, gwell ansawdd, dulliau newydd o weithio, talent newydd - gan ddyblu'r nifer o oriau o raglennu y mae BBC Cymru yn ei gwneud.

Chwyldro, llam anferth i'r oes ddigidol, diwrnod gwirioneddol hanesyddol, ansawdd gwell, amrywiaeth ehangach o opsiynau... dyma'r geiriau allweddol a ddefnyddiwyd i lansio BBC CHOICE Wales ar Fedi 23, 1998.

Erbyn chwater olaf yr ugeinfed ganrif 'roedd y cyfrifiadur wedi dechrau disodli'r teipiadur, ac 'roedd chwyldro mawr technolegol arall y ffordd.

Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar 'frwydr yr iaith'. Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a 'hyrwyddo' chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.

Gwelwyd ar yr un pryd chwyldro ym myd ffermio.

Rwyf yn hyderus bod tîm rheoli BBC Cymru yn llwyr ymwybodol o'r newidiadau hyn i'r farchnad ddarlledu, a bod y gallu yno i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd newydd fydd yn ymddangos o ganlyniad i'r chwyldro sy'n awr yn digwydd ym maes cyflwyno rhaglenni.

Ac yn chwyldro enbyd yr Ugeinfed Ganrif, 'rwy'n credu mai gwell ydy i rai arweinwyr ddod i'r Ffydd ar ôl anawsterau dirfawr.

Fodd bynnag, ar yr ochr gadarnhaol, ceir posibilrwydd o chwyldro mewn arferion gwaith sy'n dileu'r angen am y rhan fwyaf o'r teithio y mae ei angen ar hyn o bryd i gyflawni gwaith yr Adran.

Pan ddywedais ar y dechrau nad i'n cyfnod ni y perthyn Elfed, yr oedd hyn yn un o'r pethau oedd gennyf mewn golwg: rhyngom ni ac ef y mae chwyldro meddwl y mudiad cenedlaethol gwleidyddol.

Bydd yn rhaid wrth chwyldro cyn y teifl proletariat Cymreig ymaith yr hualau hyn.

Trwy ei syniadaeth gefnogol i'r Chwyldro Ffrengig, a fynegir yn y cyfrolau hyn, y daethpwyd i adnabod Iolo Morganwg fel 'Bard of Liberty'.

Arf cryfaf Fidel, fodd bynnag, yw sail pwysicaf ei chwyldro, sef gwladgarwch a chenedlaetholdeb y bobl.

Nid yw'r Dadeni Dysg na'r Chwyldro Protestanaidd ond digwyddiadau bach o'u cymharu ".

Peth arall 'sy'n ffaith', fodd bynnag, yw eu bod ill dau'n argyhoeddedig mai melltith fu effeithiau gwleidyddol a diwylliannol y Chwyldro Ffrengig ar Ffrainc ac ar Ewrop.

Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo.

Y mae'r blaid eisiau gweld chwyldro yn null llywodraethu Iwerddon.

Mae'r chwyldro mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn trawsnewid addysg disgyblion.

Bu'n enwog a mawr ei fri a'i ddylanwad yn yr Amerig adeg eu chwyldro.

Ystyr chwyldro Libya yw ymgyrchu am heddwch yn erbyn gorthrwm drwy'r byd - gwir heddwch, nid y math o heddwch y mae America yn sôn amdano.

Ac eto rydym yn byw yng nghanol y chwyldro cyfrifiadurol sy'n rhoi inni wybodaeth ystadegol a dadansoddol ryfeddol.

Honna fod ei batrwm ef o chwyldro, y 'Third Universal Theory', yn ffordd ganol rhwng rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth, ac yn well na'r un o'r ddau.

Rhan o'r un gwrthryfel oedd y chwyldro rhyw.

Mae ymgais fwriadol ar droed, felly, i wneud y chwyldro yn fwy o hwyl i'r bobl ifainc.

Tra ein bod ni wrthi yn bod yn 'nerds' cyfrifiadurol (chwedl Ffred Ffransis - dyn sydd heb eto feistroli'r teipiadur), yn y gegin roedd y chwyldro ar y stryd ar waith o dan arweiniad Branwen Niclas.

Yn ystod pum mlynedd cyntaf y llywodraeth newydd, cafwyd brwydro ffyrnig wrth geisio tawelu gwrthwynebwyr y chwyldro.

Cyn y Chwyldro Wyddonol roedd safon byw Ewrop rhywbeth yn debyg i safon byw gwledydd mwyaf datblygiedig Asia.

Yn sgil y chwyldro technolegol, rhaid sylweddoli fod cyfathrebu yn cael ei drawsnewid a bod prosesau yn gyffredinol yn cael eu hawtomeiddio.

Pwysleisiodd Meic Haines nad ar gefn tanciau'r Fyddin Goch y daeth y chwyldro i Guba.

Credai fod yn rhaid cael chwyldro, nid yn unig ym mhob un o'r gwledydd Arabaidd, ond ledled y byd - am fod y gwledydd Arabaidd wedi cael eu difetha gan imperialwyr.

Byd hwylusach - Hawdd iawn hefyd yw anghofio'r chwyldro a gymerodd le gyda'r defnyddiau synthetig a'r dyfeisiadau electronig.

Ei chwyldro ei hun ydoedd, a doedd dim rheswm i droi'r cloc yn ôl.

Yng ngogledd-ddwyrain yr ynys y ceir y dystiolaeth amlycaf o'r Chwyldro Diwydiannol ym Môn.

Nid yw'n ddim llai na chwyldro esthetig.

Daeth effeithiau'r safle hwn yn amlwg ar ôl y chwyldro diwydiannol gyda thwf enfawr y wladwriaeth.

Byddai'n rhaid i Gymru fod yn rhan o'r chwyldro technolegol newydd ac o gynllun y Llywodraeth i sefydlu pedwaredd sianel deledu os oedd i oroesi yn y byd modern.

gorymdeithio ar y strydoedd, baneri coch yn chwifio a Leon Trotsky yn annog pobl i fod yn barod am chwyldro.

Beth, felly, yw'r 'chwyldro' y cyfeiriwyd ato - yr 'Utopia' yr honnwyd iddo ei greu yn Libya?

Mae'r chwyldro technolegol wedi cyrraedd pob agwedd ar fywyd, a'r cyfrifia dur wedi dod yn ddelw, os nad yn dduw.

Lenin yn ystyried mai glowyr De Cymru oedd byddin flaen y Chwyldro.

'Ystyr chwyldro Libya yw ymgyrchu am heddwch yn erbyn gorthrwm drwy'r byd - gwir heddwch, nid y math o heddwch y mae America yn sôn amdano.

Lle bu miloedd yn dod ynghyd i wrando ar lais chwyldro nodwedd amlycaf y saithdegau oedd chwalfa.

Rydym yn sôn am ddim llai na chwyldro os am herio a thrawsnewid canrifoedd o ormes, diffyg grym a gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg.

Wrth iddyn nhw weithio, adroddai'r plant un o benillion y chwyldro:

I Gadaffi, mae hyn yn un o ddatblygiadau naturiol y chwyldro; i mi, mae ei ddatganiad yn ymddangos yn stori dda.

Cyfyngodd ar hawl yr undebau i fynd ar streic, collodd miloedd o weithwyr sifil eu swyddi wrth i fiwrocratiaeth gael ei chwtogi, a chafodd pob gwrthwynebiad i'r chwyldro newydd ei ateb gan fygythiad y rhoddid awdurdod llwyr yn nwylo Menem pe bai angen.

Yr unig Castroika oedd rectificacion, sef cyweirio camgymeriadau, a doedd hyn ddim yn cynnwys unrhyw gyfaddawdu ar egwyddorion hanfodol y chwyldro.