Sut lwyddodd pethau mor frau, mor ysgafn â brwyn i oresgyn y storm tra bo derwen mor gadarn wedi'i chwympo ganddi?
'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.