Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyn

chwyn

Fel y bydd y cnydau'n datblygu, ni fydd lle i'r chwyn dyfu a bydd y gwaith hofio'n lleihau.

Dyma'r adeg addas i ladd chwyn lawnt hyn.

Gof oedd y tad a bu ef un tro yn wynebu Tŷ'r Cyffredin gyda chwyn yn erbyn y Truck Act.

Y mae yr holl balasdai ardderchog y cyfeirwyd atynt, a channoedd heblaw hwy, heddiw yn syrthio yn gyflym i adfeiliad; mwy na hanner y rhai sydd o gwmpas Huntsville yn weigion; y gerddi blodau a'r perllanau yn llawn chwyn a'r mulod yn eu pori; naw o bob deg ohonynt `To be Sold or Let'.

Felly, mae'r deunydd cemegol yn y chwynladdwr yn "dewis" lladd y deiliach llydain, neu'r chwyn.

Ac erbyn iddyn nhw ddeffro, roeddan ni wedi'u rhwymo mewn chwyn dþr a brathu eu pigau i ffwrdd.

Gallai Eglwys Loegr wneud cynhaeaf bras o'i hynafiaeth, ac yn enwedig felly'r rhai a bleidiai egwyddorion Mudiad Rhydychen, gan fwrw sen ar yr enwadau Ymneilltuol fel rhyw chwyn crefyddol a dyfodd yn ddiweddar.

Bydd hyn yn talu ar ei ganfed yn enwedig os llwyddir i ddileu'n llwyr bob darn o wreiddiau'r chwyn lluosflwydd.

Fe'i paratowyd gan ragdybio mai chwyn yw'r planhigion dail llydain, ac mai gwair yw'r rhai dail main.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Mae'r chwynladdwr dewisol yn lladd chwyn heb niweidio'r glaswellt.

Dylid hofio'n ysgafn ond yn gyson er mwyn cadw'r pridd sydd rhwng y rhesi'n glir o chwyn.

Mae yna gryn dipyn o wahaniaeth rhwng arddull Chouchen ac arddull y Tystion wrth gwrs, a chwyn sawl un am Steffan Cravos a'i fêts yw nad oes modd cyd-ganu gyda nhw a'u bod yn rhy swynllyd o lawer.

Gellir bwydo'r glaswellt a lladd chwyn ar yr un taeniad trwy ddefnyddio cymysgedd o ddeunydd cemegol sy'n cynnwys gwrtaith a chwynladdwr yn yr un cymysgedd.

Rhaid cadw border y blodau lluosflwydd yn rhydd o chwyn nes y bydd y dail yn llenwi'r bylchau.