Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyrlio

chwyrlio

Eiliad arall ac roedd hi'n frwydr wyllt a'r eira'n chwyrlio yn ôl a blaen wrth i'r côr ymwahanu'n ddwy garfan.

Yma mae niwl nychlyd yn gysgod, ond un sy'n glynu fel glud ar groen a dilledyn, ac yn chwyrlio yn chwil o dan y ffroenau cyn ysgubo dafnau cydrhwng gwefusau i ymosod yn ddireidus, fel cusan cariadus, ar y drefn sy'n gyfrifol am gwrs yr anadliad.

Drwy'r dydd bu'r plu yn chwyrlio o'r awyr lwyd a phan ddaeth y nos a'i rhew, ni allai yr un cerbyd dramwyo'r ffyrdd o gylch y dref.

Byddai'n eu marchogaeth ar hyd y caeau yn gwbl ddi-gyfrwy, a hynny'n amlach na pheidoio tra'n sefyll ar ei draed ar gefn y ferlen yn union fel dyn syrcas gan chwyrlio lasso ar yr un pryd.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

'Does neb sy'n herio Serosadam, Tywysog Arian y Tair Planed, yn dianc â'i fywyd.' Dechreuodd chwyrlio'r mes yn ei law.