Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwyrn

chwyrn

Ond yn gyffredinol, profodd chwaraewr fel Scott Gibbs ei fod yn ymgeisydd chwyrn a theg a dylsai gael ei farnu ar y dystiolaeth honno.

Symons oedd y mwyaf chwyrn ei gondemniad ar y meistri haearn, gan roi disgrifiadau crafog o amodau gwael a ddaeth o orlenwi'r ardaloedd hynny â phobl, a'r diffyg cyfleusterau byw i'r gweithwyr yn sgil hynny:

'Dewin dima!' meddai'n chwyrn.

O dan yr ymagweddu hwn ceid cronfa o ragrith siofenistaidd a ganiatâi ryddid, os nad penrhyddid, i ddynion, ond a gollfarnai'n chwyrn a diarbed unrhyw ferch, boed honno'n briod neu beidio, a hawliai'r un rhyddid iddi'i hun, neu a syrthiai'n ysglyfaeth i ysfa rywiol dyn.

Byddem i gyd wedyn wedi cael ein rheoli gan estroniaid oerwaed iasol - a'r rheiny'n gosod arnom lywodraethwr chwyrn na faliai dreuliedig gondom amdanom.

Wrth i Adam orfodi'r car i mewn i gêr arall, ac i'r injan brotestio'n chwyrn, dechreuodd Gareth boeni o ddifrif am y posibilrwydd hwnnw.

Diddorol gweld y gwleidyddion yn ymosod mor chwyrn ar Ken Livingstone am dorri ei air ac yntau wedi addo na fyddai yn sefyll yn etholiad mae'r Llundain.

Fe'i heriodd i'w wynebu mewn dadl gyhoeddus a phan wrthododd yr eglwyswr cyhoeddodd gyfres o lythyrau chwyrn yn achub cam merched ac Ymneilltuwyr Cymru yn y Monmouthshire Merlin a'r Caernarvon Herald, a'r llythyrau hyn a fu'n sail i'w bamffled grymus, ...

Wn i ddim pwy a ddechreuodd achwyn yn gyntaf am 'y beirdd modern hyn.' Efallai y gellir ei ddyddio i'r ymateb chwyrn i rai o gerddi cynnar Bobi Jones, dywedwch, yn niwedd y pumdegau a dechrau'r degawd nesaf.

Mae cyn-reolwr y clwb, Tommy Docherty, wedi ymosod yn chwyrn ar Keane am wneud y fath sylwadau.

"Nawr ewch i'r gwely ac aros yno," meddai'n chwyrn, "os cai ychwaneg o drafferth gyda chi heno, fe fydd yn edifar gennych chi." Y bore wedyn, fe'i dihunwyd gan sŵn llestri yn cael eu gosod ar fwrdd y feranda.

'Hy!' meddai'n chwyrn.

O Gymru, oddi wrth yr awdurdodau lleol ac oddi wrth eu swyddogion, y deuai'r gwrthwynebiad, yn gras, yn ddialgar, yn chwyrn.

Yna, meddai'n chwyrn, "Bwyd o'r dref yma a'r ffermydd cyfagos ydy'r cwbl, wedi ei ddwyn ar orchymyn y Maer yna.

Fe'i gwelwyd gan yr Uchel- Galfiniaid fel gwyriad tuag at Arminiaeth y Gyfundrefn Newydd ac fe'i condemniwyd yn chwyrn gan John Elias ei hun.

Pan ddychwelodd Graham, ei dad, i'r cwm yn 1999 'roedd Jason yn chwyrn yn ei erbyn.

Mae'r dewis wedi ennyn ymateb chwyrn wrth gyn-gefnwr Cross Keys, Ioan Bebb.

Ond o gofio fel y mae ffwndamentaliaeth Foslemaidd yn ennill cefnogaeth gynyddol mewn llawer rhan o'r byd, hwyrach y gallwn sylweddoli fod adegau pan geir miloedd o bobl yn cofleidio disgyblaeth chwyrn.

Roedd JPR yn eofn ond eton chwyrn ei gondemniad o chwarae brwnt a chïaidd.

Yn y lle cyntaf, fel y cawn weld maes o law, ceir yn y ddwy ymwrthod digon chwyrn a phendant a'r hyn a aeth o'r blaen.

a., ac yn cystadlu'n chwyrn â'u gilydd.

'Sut gwyddwn i fod yma le mor gyntefig?' atebodd Dilys yn chwyrn.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wedi anfon llythyr chwyrn at y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn Llundain a'r Swyddog Cyfrifiad Lleol yn Nhregaron i gwyno oherwydd fod yr ymarfer hwn yn rhagfarnu yn erbyn Cymry Cymraeg.

Dyna un rheswm pam roedd ei rhieni'n gwrthwynebu'n chwyrn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith : ni welent ddim o'i le ar Saeson, a pheth ffôl oedd eu tynnu i'w pen heb eisiau.

Trwy'r cyfnod hwn ymosodai'r Blaid Lafur yn chwyrn, yn arbennig ar SO Davies.

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn gwrthwynebu'r argymhellion hyn yn chwyrn ar y sail y byddai effeithiolrwydd y Cyngor Gwarchod Natur yn cael ei leihau'n sylweddol, ac y byddai hynny'n cael effaith ddinistriol ar gadwraeth natur.

Cydiodd Medrawd ynddi'n chwyrn.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd agweddau tebyg i'w gweld gyda gwaith dramatig llawer llai pwysig - fe brotestiodd Cymry Cymraeg yn chwyrn ar ôl i'r ffilm Smithfield awgrymu fod Ffermwyr Ifanc ac eraill yn meddwi a mercheta yn ystod eu taith i Lundain.

Mewn cyfres o stori%au byrion, byrion, ffwrbwt weithiau, gyda thro yn y gynffon a rhyw islais o ddirgelwch yn gorwedd wrth wraidd nifer ohonyn nhw, mae'n edrych allan ar y byd, ambell waith yn chwyrn, ambell waith yn betrus, ond bob amser trwy lygaid unig ac ynysig un person sydd wedi ei charcharu yn ei chnawd a'i meidroldeb ei hunan.

Rhaid cysegru a diheintio'r lle â'r fflamau chwyrn cyn y bydd gweddill y tylwyth yn fodlon byw yno eto.

Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).