Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwysu

chwysu

Os yw person yn teimlo'n rhy dwym mae'n chwysu, ac os yw'n rhy oer mae'n crynu.

Er slafio a chwysu chwartiau o fore gwyn tan nos, roedd yn ŵr tlawd o hyd.

Doedd o ddim wedi cysgu fawr ddim y noson cynt ac roedd o'n crynu a chwysu er ei bod yn fore braf o Fehefin.

Gwelai'r nerthoedd a adawodd eu hôl ar ei ysbryd, y bobl y bu'n byw yn eu plith ac y disgynnodd ohonynt, a'r wlad lle y bu'n chwarae , yn chwerthin, yn chwysu, yn gweithio a gweddi%o.

Fel hyn y'i gwelai yn Eisteddfod Pwllheli y flwyddyn honno--"pawb yn chwysu Cymreictod yn chwartiau, Cymraeg ar bob llaw, a'r ysbryd Cymreig yn byrlymu drosodd .

Ond mae na eithraid, a 'Chwysu fy hun yn oer' gan Hefin Huws ydi honno. Pa air fyddet ti yn ddefnyddio i ddisgrifio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw?

Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.

Wrth i'r arweinwyr ffarwelio â'i gilydd mae eu swyddogion yn rhuthro allan gyda chopi o'r datganiad terfynol - ychydig baragraffau fel arfer y bu cryn chwysu drostyn nhw er mwyn sicrhau fod pob gair, yn llythrennol felly, yn ei le ac yn dderbyniol i'r Dwyrain a'r Gorllewin.

Ond erbyn cyrraedd y fan dywededig - "No chwe - chiw chol sei dawn chofyr dder!" - Er i mi edrych yn ofnus a chrefu "Por favor, senor" Gorfu i'r dosbarth fynd i lawr y llethr o rew - son am grynu, dychryn, chwysu'n oer a phoeth ac arswydo.

Os nac 'ych chi wedi anadlu naws a sawr y glowr yn eich ffroenau chi, os nac ydach chi yn gwybod fel yr oedd yr hen dipiau glo yn chwysu yn yr ha', fedrwch chi ddim sgrit`ennu amdano." Roedd chwaer y dramodydd, Letitia Harcombe, a gymerodd ran y butain, wedi dweud ei hun tod y ddrama' n agos at y gwir a i bod yn gwybod am deuluoedd a oedd mewn sefyllfa debyg.

Un dydd Sul mi rois i solpitar yn ei fwyd, er mwyn gwneud iddo chwysu, ac yna, wedi iddo fynd i'w wely, mi agorais y ffenest' yn slei bach.

Yn y cyfamser, er ein bod ni'n gwybod nad oeddem yn cario dim anghyfreithlon i mewn, 'roeddem yn chwysu wrth feddwl beth allent wneud â ni.

Un o ddisgynyddion gwŷr y traethau, y tywod gwyn, yr awyr a'r palmwydd glas oedd Joe Erskine ac wrth eistedd felny o flaen y tân, roedd ei wedi dechrau chwysu a gwamalu wrth y lleill ei fod e am wneud 'come back' a threchu Frank Bruno am ffortiwn yn ei ffeit gyntaf.