Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chwythiad

chwythiad

Ar y ail chwythiad o'r corn roedd pawb yn tanio'r fuse ac yn mynd yn bur frysiog at y dynion eraill i wardio.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.

Ni allai yn ei byw fod yn clywed ei sŵn, i'w tharfu; ni ddeuai chwythiad o wynt o gyfeiriad y bar i ddeffro'r cychod o'u trwmgwsg.