Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyd

chyd

Trefnir y staff mewn adrannau, a chyd-drefndir y gwaith gan raglen o gyfarfodydd adran, rhyng-adrannol a staff, gyda chysylltiad clos rhwng pob adran a'r is-bwyllgorau rheoli sy'n gyfrifol am yr agwedd honno o waith y Gymdeithas.

Yn aml fe gafodd y Chwaer Jean ei dihuno gan filwyr arfog ganol nos a'i chroesholi am eu bod nhw'n amau ei bod hi a'i chyd-weithwyr yn rhoi lloches i'r FMLN.

Byddai'n braf petaent yn cael eu hannog i gyd-weithio a chyd-gyfrannu, a hynny mewn ysgol hapus ag adnoddau digonol.

Casgliad y llyfr yw mai mudiad oedolion ifainc dosbarth canol addysgiedig oedd y Gymdeithas rhwng 1962 a 1992, proffil sy'n gyffredin i lawer o fudiadau ymgyrchu eraill; yn wir, un o gryfderau'r astudiaeth hon yw'r modd y defnyddir astudiaethau ar fudiadau megis CND a Chyfeillion y Ddaear i oleuo datblygiad y Gymdeithas a'i rhoi hi yn ei chyd-destun fel mudiad pwyso.

* Trafodwch gyda chyd-weithwyr sut y gallai lleoliadau gyfoethogi eu gweithgareddau proffesiynol nhw

Yng ngweddill y bennod, canolbwyntio ar y fframwaith disgrifiadol sy'n diddori yr awdur ei hun, sed Gramadeg Systemig, a ddatblygwyd gan M A K Halliday dan ddylanwad syniadaeth ei gyn- athro, J R Firth, am lefelau dadansoddi, sef Sylwedd, maes Seineg a Graffeg; Ffurf, maes hyn gan Rynglefelau: Ffonoleg ac Orgraff, y rhynglefel sy'n cysylltu Sylwedd a Ffurf, a Chyd-destun (neu Ystyr), sy'n cysylltu Ffurf a Sefyllfa.

Am ddau hydref efallai cafodd gymar, a chyd-rychasant y gro i fwrw ei grifft.

A chyd-destun mawredd yr Oen a ysbrydolodd Handel wrth gyfansoddi Corws yr Halelwia, sy'n dal i godi tyrfaoedd ar eu traed gan mor orfoleddus yw'r mawl.

Yn ôl ei dystiolaeth ei hun, mae wedi cael ei ysbrydoli yn ei waith gan ddylanwad Artistiaid Newlyn yn ogystal â gan ymdrafodaeth gyda chyd-artistiaid yn stiwdio DAI

Mae Serena Williams eisoes trwodd i'r rownd gyn-derfynol ar ôl curo ei chyd-Americanes, Lisa Raymond, 6 - 2, 6 - 0, y prynhawn yma.

Mae'r gyfres yn seiliedig ar wrando, canu a chyd-ddarllen 8 llyfr poblogaidd gyda Iwan Tudor.

Cyn i Gyngor Henoed Gwynedd sefydlu'i annibyniaeth, sefydlwyd canolfan ddydd wirfoddol yn Nyffryn Ardudwy, gwnaed ymchwil i'r angen am ganolfannau dydd eraill yn Arfon, a chyd-weithiwyd a'r WRVS er sefydlu gwasanaeth siopa i'r henoed yn Arfon.

Cyfuniad yw o ddeialog naturiol, ymson a llafarganu, sydd yn galluogi'r awdur i dynnu sylw yn barhaus at y ffordd y mae agweddau gwahanol ar fywyd ei gymeriad yn cyd-wau a chyd-daro.

Wrth iddo gael swydd Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, roedd yna rai ohonyn nhw'n pryderu ynglŷn â chyd-weithredu ag o.

Bu'r un mor barod i daro cleddyf â gweinidogion Ymneilltuol, a chyd- weinidogion o fewn ei fudiad ei hun.

Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib.

Ei amcan yw hybu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau a chyd-gysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd, ac hefyd i gynorthwyo a chefnogi awduron.

Sylweddoliad pwysicaf Cymdeithas yr Iaith oedd gweld na ellid ysgaru'r iaith o'i chyd-destun economaidd a chymdeithasol.

Credai hefyd - fel y dywedodd wrthyf droeon - ei fod wedi darganfod y gymdeithas ddelfrydol ymysg ffermwyr Sir Benfro - lle'r oedd cyd-weithio a chyd-lawenhau, heb sôn am gyd-ddioddef, wedi ei gwneud yn gymdeithas glos, lawen a chydweithredol.

Bu'r ddau yn adrodd a chyd-adrodd barddoniaeth a darnau o ddramau yn hynod o ddiddorol.

Fel hwyluswr a chyd-bartner y mae'r Bwrdd yn gweld ei ran.

Y mae'n rhaid i chi ar bob adeg gydymffurfio a chyd- weithredu â'r drefn ddiogelwch berthnasol i'ch swydd, ac i roi ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch eich cyd-weithwyr.

Anfonwch gopi%au at y canlynol: Sefydliad croesawu; pennaeth; cydgysylltydd datblygiad staff; staff sy'n gyfrifol am arweiniad mewn addysg gyrfaoedd, dealltwriaeth economaidd a chyd-weithwyr perthnasol eraill; trefnydd lleoliadau athrawon.

Cyn mynd ymlaen i drafod y datblygiad hanesyddol, fodd bynnag, mae'n ofynnol yn gyntaf gosod y ddadl o fewn ei chyd-destun theoretaidd, er mwyn gosod allan yn glir y cysyniadau gwaelodol sy'n sail i'r drafodaeth.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sef canrif y gerdd 'Calanmai' gan fardd anadnabyddus, fe edrychid ar holl brofiadau'r ddynoliaeth yng nghyd-destun cylchdro'r tymhorau a chyd-ddibyniaeth bywyd a marwolaeth.

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.

Ysgrifau yn ystyried ieithwedd a chyd-destun gwaith y llenor.

Cyn-berchennog Deryn Skips a chyd-berchennog GBA Construction.