Dim ond trwy geisio amgyffred yn ddeallus a chyda chydymdeimlad y gallwn obeithio helpu y byd sy'n datblygu a cheisio datrys problemau a ddaw efallai i ran pob un ohonom.
Wythnos o leiaf, a chyda thipyn o stilio hyd yn oed ddeng niwrnod.
A chyda'r Trefnydd Busnes, Andrew Davies, yn cyhoeddi y cynhelid trafodaeth ar bwnc cig eidion ar yr asgwrn cyn gynted a bo hynny'n briodol daeth y sesiwn cyntaf - dof a digon anniddorol mewn gwirionedd - o gwestiynau i'r Prif Ysgrifennydd i ben.
Fy hun, fe fyddwn i'n poeni mwy am hynny nag am ferched au mannau goglais yn swrth a chyda mwy o amser ar eu dwylo nag o sens yn eu pennau.
Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.
Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.
Harthiodd ei fod ar frys a chyda llai o griw byddai digon o ddŵr ar gael i fynd ymhellach.
O leiaf, byddai problem pellter yn llai, a chyda'r adeilad hefyd yn llai, byddai'r dasg o'i dwymo gymaint a hynny'n haws.
Cofio gyda thynerwch ambell dro, a chyda gwên dro arall.
* Trafodwch gyda'r sefydliad croesawu a chyda'r ysgol sut y gellid trefnu cydweithio pellach rhyngddynt
Rwy'n diolch i'r Arglwydd am flynyddoedd fy nedwyddwch gyda'r Teulu Mawr, a chyda'th rieni a thithau.
Dechreuodd ef ei yrfa ar y môr, fel llawer o hogiau ifainc Llyn, mewn llong fechan o'r enw Fishguard Lass ac yntau'n bedair ar ddeg oed a chyda'r Capten a'r Mêt yn gwneud nifer y criw yn dri.
Yn olaf, fe ellir chwarae y rhaglen orffenedig yn ôl ar sawl sgrîn deledu yng ngolau dydd, a chyda llawer llai o draul ar y tâp nag a fyddai ar ffilm arferol, a byddai cynhyrchu copi%au o'r rhaglen wreiddiol yn hawdd ac yn rhad.
Meddyg gwyn, yn siarad Cymraeg, a chyda blynyddoedd o brofiad yn ei swydd, a ddywedodd mewn ffordd ddifeddwl ac angharedig wrth wraig ifanc fod ganddi hi ganser ai gollwng wedyn yn syth yn ôl i ward i ganol cleifion eraill.
Mewn aml i bentref yr oedd gefail y gof a gweithdy'r saer bron yn ymyl ei gilydd, a chyda'r gwaith o ganto'r olwynion fe weithient law yn llaw.
Caerfyrddin oedd y tîm amlyca yn yr ail hanner a chyda'r gôl hwyr yn cipio'r tri phwynt.
A chyda threiglad amser daeth yn rhan ddigon anrhydeddus o'r traddodiad Seisnig i bwysleisio rhyddid pobl i fyw eu bywyd preifat heb i'r gyfraith a'r llywodraeth ymyrryd.
A chyda threiglad y blynyddoedd, onid oes posiblrwydd gwirioneddol inni ein cael ein hunain mewn cymdeithas a fydd yn gweld hyn fel ffordd i gael gwared â hen bobl sâl?
A chyda llaw, digwydd cam-brint anffodus ar d.
Y rheini fedr arwain orau rai cyffelyb iddynt hwy eu hunain, a chyda mwyaf o rym wedi iddynt gael eu sefydlu yn y Ffydd, a dod i gredu mewn gwirionedd 'fod Iesu Grist yn Arglwydd er gogoniant Duw Dad'.
'Os ydych chi'n cymryd cymaint o ofal ac o amser gyda phawb a chyda fi 'dych chi ddim yn medru gwasanaethu llawer o gwsmeriaid mewn diwrnod,' meddai, a hynny'n hollol wir - mor wir fel y sylwasai'r goruchwyliwr ar hynny a phenderfynu gwahodd Hector i chwilio am waith gyda rhywun arall.
Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.
Bu i ni weithio gyda nifer o grwpiau mewn pentrefi i astudio gwella adnoddau yno a chyda un pentref ddymunai gyhoeddi llyfr yn dilyn ymdrech o fewn y gymuned i drefnu arddangosfa o hen luniau.
Mae Ben yn ffan mawr o'r straeon a chyda phob stori newydd mae na gymeriad newydd i ddod i'w nabod a'r hen ffefrynnau fel y Dewin Dwl, Rwdlan a'r Llipryn Llwyd i'w cyfarfod unwaith eto.
Os alla i ddal fy ngafael yn honno, fe fydd rhywun yn sicr o'm tynnu'n ôl i mewn ar ddec y British Monarch." Wrth lwc, a chyda chymorth y lamp fawr oedd yn goleuo starn y llong fasnach, fe ddaeth o hyd i'r wifren.
Buont yn ddoeth a chraff yn ymgodymu ag anffyddiaeth glaslanciau (a chyda llaw roedd y dosbarthiadau i hogiau ac i enethod ar wahân) a buont yn gyfrwng ill dau i ehangu gorwelion drwy sôn am y byd mawr oddi allan.
cafodd griff tomos afael ar seth harris, ei gymydog, i ddod gyda nhw, a chyda gethin ym mlaen y car gyda 'r sarsiant cychwynasant am y ffordd a arweiniai i lawr y dyffryn ymron ochr yn ochr ag afon afon.
Fe welwyd eisioes fod Cymru ar y cyfan yn wlad fynyddig, gwlyb a chyda priddoedd gwael.
A chyda'r tywydd mawr a'r streic yn taro ar unwaith, wele'r ganolfan wydrog, oerllyd yn cau.
Gwn iddo fod yn hapus yn ei gartref a chyda'i deulu ac er na chafodd ef ei hun gyfle, gofalodd fod y plant yn cael pob cyfle posibl.
A chyda naw o ymgeiswyr eraill fe'm derbyniwyd i'r coleg hwnnw i baratoi at y Weinidogaeth.
Amcanem at geisio rhoi cyfle i Gaerdydd brofi ei hawl i fod mewn gwirionedd yn brifddinas Cymru ac ennill lle iddi ei hun fel amddiffynnydd ac arweinydd diwylliant y wlad y mae eisoes yn ganolfan iddi mewn materion masnach ac economeg, a chyda hynny o hunan lywodraeth sydd gennym.
Yn eu plith roedd hyd yn oed lond blwch o sbringiau o wahanol faint a chyda hwy llwyddodd y gof i adnewyddu hen ynnau nad oedd wedi cael eu tanio ers deng mlynedd neu ragor.
A chyda'r gair, neidio'n ôl fel y chwipiodd ei chyrn heibio i'm llygaid fel picwarch.
A dyma nhw'n dod ac yn eistedd ar y llawr wrth ein traed ni, a chyda nhw roedd yna anferth o ddyn - 'Joe Louis' oedden nhw'n ei alw fo - ac roeddo'r un ffunud â'r bocsiwr ond mi fuaswn i'n cymryd fy llw ei fod o ddwywaith gymaint ag o.
Roedd yna gyfarfodydd yn y bore a chyda'r nos, a chyngerdd - colled ariannol oedd hwnnw.
A chyda golwg ar ein hanes, ni charodd neb hwnnw chwaith er ei fwyn ei hun, 'except in so far that history might be skilfully handled to show the awful consequences of Popery'.
Lle bo'r safonau mewn Cymraeg/Saesneg yn dda, bydd disgyblion yn siarad yn eglur a chyda hyder cynyddol; yn cyfleu gwybodaeth yn effeithiol gan roi cyfarwyddiadau ac ymateb iddynt yn briodol; byddant yn darllen yn fwriadus, ac yn ymgymryd â chwarae rôl a drama'n hyderus.
'Siwr o wneud, Marian, siwr o wneud.' A chyda hynny, gadawodd John Williams Syfydrin y tŷ a brasgamu tua'r cerbyd.
Mae tuedd, ysywaeth, i'r holl bynciau orbwysleisio'r dealltwriaethau llythrennol ac ad-drefniadol yn y math o gwestiynau darllen a deall a osodir ym mhob maes cwricwlaidd a chyda phlant cyffredin ac is o ran gallu yn arbennig, ar ddechrau gyrfa ysgol.
Yna cododd ei ysgwyddau, rhoddodd ei droed ar y sbardun a chyda sgrech, i ffwrdd a hwy.
A chyda hynny o eglurhad eisteddodd Gruffydd i lawr i fwyta cinio, cinio rhywun arall.
Ffwrdd â ni am yr awyren, a chyn cyrraedd Karachi, euthum at Bholu a chyda gwên gofynnais iddo beth oedd pwysigrwydd y sach.
Yn sicr, mae sefydlu is-label i Fflach wedi bod yn fenter lwyddiannus a chyda lwc fe fyddwn ni'n gweld mwy o gynnyrch gan RASP yn ystod ail hanner y flwyddyn.
Esboniodd Pamela ei bod wedi sylweddoli eu bod hwy oll yn bechaduriaid euog ac yn haeddu llid Duw a chyda hyn gwahoddodd wraig y llety i benlinio gyda nhw.