Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chydag

chydag

Os torrodd y modernistas trwy dir gwyryf yn eu harbrofion gyda mydrau newydd, a chydag ieithwedd a ddaeth o Ffrainc, gwnaeth beirdd y pum a'r chwedegau yng Nghymru rywbeth tebyg gyda'u defnydd o'r vers libre.

A chydag iddo wella bron, bu farw ei dad.

Heb edrych ar ei wyneb e, fe dynnes fy nghylleth boced allan, roedd wastad awch fel raser ar honno gen i, a chydag un ergyd mi dorres y rhaff.

Nid yr elfennau hyn sy'n amlwg, ond yn hytrach barhad, ar newydd wedd a chydag angerdd newydd, o'r ysbryd Rhamantaidd hwnnw a oedd eisoes wedi chwythu'i blwc mewn gwledydd eraill.

A chydag ymdrech arwrol, a stoc dda o hwiangerddi, fe lwyddodd i gadw'r bechgyn i ganu bob cam o'r ffordd yno.

Ond nid oes rhaid wrth brofiad newyddiadurol i fedru darllen y newyddion, i wneud bwletin yn gredadwy, ac i ddarllen y naill stori ar ôl y llall yn rhesymegol, yn synhwyrol a chydag argyhoeddiad.