Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chydnabod

chydnabod

Doedd gen i ddim iot o ddiddordeb ynddi hi na'i chydnabod - ar wahân i'w mam-gu.

Rhaid i farn gytbwys ynglŷn â diwylliant Ffrianc ac Ewrop yn ei chrynswth, wrth gwrs - gydnabod cyfraniad y Chwyldroadwr a'r Ceidwadwr, y Chwith a'r Dde i'w gwareiddiad, a chydnabod hefyd werth a dilysrwydd cyfraniadau'r ddwy garfan.

Gwendid sylfaenol arall yw nad y'r Gymraeg yn cael ei chydnabod fel un o 'ieithoedd swyddogol' Prydain.

Roedd gan Mr Huw Williams nifer o ffrindiau a chydnabod ym Maesteg ac roedd pawb yn gwerthfawrogi ei hynawsedd a charedigrwydd wrth ddilyn ei yrfa fel Rheolwr Siop Fferyllydd Morris a Jones, Commercial St.

Ni ddangosodd unrhyw syndod o gael ei ddal yn syllu arni, ac ni cheisiodd ei chydnabod trwy wên na gweithred.

Gan nad yw Ms Butler wedi ateb na chydnabod ein llythyrau mae'n rhaid holi nifer o gwestiynau poenus.

Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol.

Mae'r beiddgarwch mynegiant hwnnw yn bwydo ar feiddgarwch y meddwl, ac fel arall; a phan ddown wyneb yn wyneb a'i gwaith hi, ni allwn ond dilyn o hirbell, a chydnabod arucheledd y wisg a'r cynnwys fel ei gilydd.

Ymddengys fod y berthynas rhwng y ddeuddyn yn cael ei chydnabod fel priodas ddilys gan y gymdeithas o'u cwmpas.

a chydnabod "if thou draw the Curtain, all is hell", sylw nesaf Cradoc yw "but there is nothing but love, even after sin, there is not one hard thought.." (td.

Dydd Sadwrn oedd hi, a'r pryd hwnnw yr oedd Saunders Lewis, hen hen gyfaill a chydnabod i Kate Roberts, yn adolygu llyfrau i'r Western Mail, yn Saesneg.

Rydw i felly wrth fy modd fod safle flaenllaw S4C ym maes animeiddio yn cael ei chydnabod unwaith eto gydag enwebiad am Oscar.

Wrth reswm mae pawb bron yn unfrydol ynglyn â chydnabod y cyfraniad Meic Stevens i'r byd roc dros y blynyddoedd ac yr oedd yn hen bryd i Les Morrisson dderbyn gwobr am ei waith fel cynhyrchydd gorau ac i ddangos fod Les yn dal i fod mor weithgar - ef sydd wedi cynhyrchu albym newydd Maharishi - Merry Go Round fydd allan ddiwedd y mis ‘ma.

Gan nad yw Ms Butler wedi ateb na chydnabod ein llythyrau mae'n rhaid holi nifer o gwestiynau poenus y gobeithir cael atebion iddynt.

Dynes hawddgar iawn oedd Mair ac yn uchel ei pharch gan ei ffrindiau lu a'i chydnabod.

Yr oedd parch at y Saesneg yn gyfystyr â chydnabod awdurdod gwleidyddol Lloegr tros Gymru.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Chaen nhw ddim hyd yn oed addoli na chydnabod eu crefydd yn agored.

Daeth yn hen bryd diwygio Deddf Iaith '93 a chydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru.

Dysg ein cenhedlaeth ni i fawrygu'r fraint honno gan ddiogelu ffrwythlonder y ddaear a chydnabod mai dy drefn Di'n unig a sicrha degwch i blanhigion ac anifeiliaid ac i blant dynion.

Dywedodd Huw Jones, Prif Weithredwr S4C,: "Rwy'n hapus dros ben o feddwl fod ffilm o safon mor eithriadol - cywaith rhwng animeiddwyr tair gwlad, gan gynnwys Cymru - wedi ei chydnabod gan yr Academi Americanaidd.

Ei chydnabod, nid ei mab, a ddywedai ei bod yn anllythrennog yn yr ystyr na fedrai ddarllen.