Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chydymdeimlad

chydymdeimlad

Dim ond trwy geisio amgyffred yn ddeallus a chyda chydymdeimlad y gallwn obeithio helpu y byd sy'n datblygu a cheisio datrys problemau a ddaw efallai i ran pob un ohonom.

Pe bai'r gwahanol fudiadau gwledig yn cyfarfod, yn ymgysylltu ac yn rhannu problemau'n amlach ac yn cynnal llai o ymrafael cyhoeddus yn y papurau newydd, yna byddai gwell gobaith am gytgord a chydymdeimlad.

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

Ond ni allai hyd yn oed ei chydymdeimlad â'r tlodion ei chadw rhag mwynhau yn hir iawn.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

O'r herwydd y mae'n bwysig sicrhau beirniaid sydd, nid yn unig yn hyddysg yn y gwaith, ond sydd hefyd yn meddu â chydymdeimlad â phobl ifanc.

Collodd Beryl ei chydymdeimlad tuag at Teg ar ôl iddo fwrw Cassie ac ers i Cassie symud allan o'r Deri mae Beryl hefyd wedi bod yn byw gyda Steffan.

Nid cydymdeimlad â phopeth oedd yn digwydd yno, na chydymdeimlad dall, ond ymgais i ddeall beth oedd creu gwladwriaeth newydd ar ôl dwy ganrif a mwy o goloneiddio a hanner canrif o ormes gwleidyddol trwm, gyda dim ond un cyfnod byr o annibyniaeth i oleuo rhwng dau ryfel byd.

Mae'n amlwg nad oes gan y sawl sy'n gyfrifol am eu hysgrifennu ddealltwriaeth na chydymdeimlad a Chymru na'r iaith Gymraeg ac mewn dogfen mor bwysig i ddyfodol ein gwlad gallant brofi'n ddamniol.