Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyfansoddiad

chyfansoddiad

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Er y byddwn yn sôn am Feirdd Ynys Prydain fel mudiad neu gymdeithas neu urdd, rhaid egluro yn y cychwyn cyntaf nad oedd iddo na swyddogion parhaol na chyfansoddiad cenedlaethol am tua chanrif.

Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif am nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.

Ei ffefryn fodd bynnag fyddai amrywiad, o'i chyfansoddiad ei hun mae'n debyg, ar yr un patrwm mydryddol, y byddai'n ei ganu â chryn angerdd.

Mae disgwyl y bydd cytundeb ynglyn â chyfansoddiad y gystadleuaeth erbyn diwedd yr wythnos nesaf.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.