Mae'r teliffon wedi distewi ac mae pobman yn dawel ar wahân i sŵn y gwynt yn mynd heibio a chyfarthiad Sam, ci'r drws nesaf ond un.
Drwy'r ffenestr agored y noson honno, y peth olaf a glywai'r plant oedd sŵn yr afon yn llithro'n dawel dros y cerrig ar ei gwely gro yng ngwaelod y dyffryn, sŵn y tylluanod yn hwtian yn y coed ar ei glannau a chyfarthiad pell y llwynog coch o'i ffau ar lethr y mynydd.