Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyflwr

chyflwr

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Yn ystod y gwyliau fe gymerwyd y famgu yn wael ac fe brynwyd aspirin iddi a moddion arall ond ni fuwyd at y doctor lleol o gwbl, ac yn sydyn rhyw noswaith gwaethygodd ei chyflwr yn ddisymwth, a bu farw.

Nid mudiad na chyflwr ydoedd yn gymaint â phroses o ymagor ac ysgwyddo cyfrifoldeb.

Datganodd y Cynghorydd RJ Wright bryder ynglŷn â chyflwr y bont.

Yn y cyfnod hwnnw a basiodd yr oedd llawer anhwylustod bid siwr, swm o anghyfiawnder o gormes, gyda chyflwr cymdeithas yn llethol o anwastad.

Of nai'r meddyg y byddai'n rhaid torri'r droed i ffwrdd gan mor enbyd oedd ei chyflwr, ond yr oedd Phil yn gyndyn iawn i gytuno â hynny.

Wrth brynu a gwerthu nid ydynt i siarad i ormodedd nac i gamarwain prynwr ynglyn â chyflwr yr hyn y maent yn ei werthu.

Roedd rhai pethau wedi newid, a hynny er gwaeth, er enghraifft, meddwdod a chyflwr tai, a chyfleusterau carthffosiaeth fel yr amlygwyd hwy yn ail adroddiad Dirprwywyr iechyd trefi gan Syr Henry De la Beche.

Roedd yr ymwybyddiaeth o Gymreictod a chyflwr Cymru, cyflwr yr iaith, y cyflwr cymdeithasol i gyd yn gweithio arna i i ffurfio fy ymateb.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

(vi) dim newid ychwaith yn y cyflenwad llafur, y stoc cyfalaf, na chyflwr technoleg, ac, fel canlyniad, gallu cynhyrchu'r economi (neu lefel cynnyrch cyflogaeth lawn) hefyd yn aros yn ddigyfnewid;

Rwy'n amau bod a wnelon nhw â chyflwr dy dad-cu hefyd.