Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyfnither

chyfnither

Roedd'i chyfnither hi ar fynd, ac fe ges i fynd i miwn yn syth.

Mor dda hefyd y cofiai ei chyfnither, Anna Maria, merch ei Hewyrth Joseph y ddwy ohonynt ar lawnt fechan Trefeca Isaf yn gorwedd ar eu cefnau i weld y sêr a'r lleuad trwy delesgop rhyfeddol ei hewyrth, wedi eu swyno gan ddirgelwch peiriant a fedrai dynnu'r sêr a'r nef ei hun mor agos atynt.

Merch yw hi sydd yn ei hanfod yn debyg i Mary Williams Blaenycwm, a chyfnither Morgan yn Y Tri Brawd, sef un sydd wedi'i chodi uwchlaw amgylchiadau'r teulu gwerinol yn rhinwedd addysg Saesneg mewn ysgol breswyl.

Roedd wedi edrych ymlaen ers wythnosau at y daith y byddai'n ei gwneud heddiw - taith a fyddai'n ei dwyn bob cam i'r ddinas fawr lle'r oedd yn mynd i dreulio wythnos gron gyfan yng nghwmni ei chyfnither, Llygoden Fach y Ddinas.