Ar y llaw arall, yr oedd y bobl hyn yn ddigon parod i gyhuddo Ferrar o'r un trachwant am diroedd a chyfoeth ag oedd mor nodweddiadol ohonynt hwy eu hunain.
Wedi'r cyfan, nid ei ansoddeiriau cymwys, er bod y rheini ganddo, nid saerni%aeth gymesur mewn ysgrif a phennod, yw gogoniant Owen Edwards, ond ei ddarluniau o ddarn o wlad; ei bortreadau o ddynion a gyfarfu; ei ddoniolwch direidus; ei hynawsedd a'i radlonrwydd; yr ychydig wermod weithiau pan wêl "wyneb coch rhyw Philistiad o Sais ariannog"; ei onestrwydd unplyg wrth gofio am Gymru yn yr Eidal neu Lydaw, a dewis ei moelni digelfyddyd crefyddus hi o flaen pob ysblander lliw a chyfoeth.
Yr oedd yr Wyddgrug yn ddyledus am ei llwyddiant i'r chwyldro diwydiannol a chyfoeth mwynol y gymdogaeth.
Chwi sy'n meddu aur ac arian Dedwydd ydych ar ddydd Calan; Braint y rhai sy'n perchen moddion Yw cyfrannu i'r tylodion; 'Rhwn sy' â chyfoeth, ac a'i ceidw, Nid oes llwyddiant i'r dyn hwnnw.
Llifodd ei chyfoeth i gynnal Llundain a'r Ymerodraeth.
Y mae tradyrchafu un gynneddf, dyweder y gynneddf ddadansoddol, ar draul anwybyddu'r lleill, yn golygu gwneud cam mawr â chyfoeth y bersonoliaeth.
Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o'r Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth ein hiaith.
Ni all y genedl cyn marw wneuthur yr un ewyllys ar ei chyfoeth; rhaid i'r holl eiddo fynd yn sied, rhaid iddo gwympo, fel pob eiddo di-etifedd, i sawnsri Lloegr.