Un o amcanion pennaf llywodrathau'r ganrif oedd sicrhau unffurfiaeth ymhlith deiliaid y wlad - unffurfiaeth mewn crefydd, iaith a chyfraith.
Nid oedd hi'n ddigon iddo wybod beth y dylai ei gyflawni eithr disgwyid iddo wybod yn ogystal sur i'w gyflawni, ac yr oedd cadw trefn a chyfraith yn un o brif ddyletswyddau'r dosbarth breiniol hwn.
Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.