Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyfrwng

chyfrwng

Gwendid arall oedd diffyg gweledigaeth ynglŷn â chyfrwng dysgu yn adran y plant bach, sef plant rhwng pedair a saith oed.

Fel dinesydd yr ystyriant y person dynol yn y lle cyntaf, a chyfrwng i borthi mawredd y wladwriaeth yw'r gymdeithas genedlaethol.

Y cam cyntaf yw sefydlu Ysgol Sul a chyfrwng y diwygiad hwn yw ei swyn diniwed sydd yn ei galluogi hi i oresgyn ceidwadaeth yr hen werinwyr.

Cynhyrchwyd taflenni i'w dosbarthu i lywodraethwyr ac ysgolion yn amlinellu manteision addysg Gymraeg, a rhagwelir mai cyflenwi gwybodaeth am y Gymraeg fel iaith a chyfrwng fydd un o brif swyddogaethau'r pwyllgor yn y dyfodol agos.

Teimlodd y beirniaid fod y safon yn dystiolaeth o greadigrwydd a diwydrwydd plant ac athrawon ysgolion cynradd Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â chyfrwng newydd y we.