Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chymdeithas

chymdeithas

Bydd swyddog o Orange yn ein disgwyl yn y dderbynfa a chytunodd y byddai Prif Swyddog Gweithredol y cwmni Mr Hans Koon yn cysylltui â Chymdeithas yr Iaith i drafod darparu gwasanaeth Cymraeg.

Yn wyneb y sefyllfa hon penderfynodd Awdurdod Addysg Dyfed ymateb i'r gwasgu a fu arnynt of du undebau a mudiadau tebyg i UCAC a Chymdeithas yr iaith.

Mae llawer o fudd mewn datblygu lloches newydd gyda chymdeithas tai, boed yn fater o adfer hen adeilad neu adeiladau o'r newydd.

Colegau Addysg Bellach, Awdurdodau Addysg Leol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr sy'n gyfrifol am y cyrsiau darnynol, tra bo'n sefydliadau addysg uwch yn darparu cyrsiau dwys a chyrsiau uwch.

Yn y Gaiman fe gês i'r profiad o ymweld â chymdeithas dynion Y Bwthyn.

Bu yn aelod ffyddlon a gweithgar o Eglwys Santes Fair Trefriw a Chymdeithas yr Henoed.

BYDD Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, mewn cydweithrediad a Chymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru, yn noddi Gŵyl gyntaf Cwpan Cymru Wledig Ebrill nesaf.

Gellir dweud mai da yw gweithgareddau sy'n gogwyddo at greu cymundod, ac yn cyfoethogi bywyd cymdeithas, ac yn meithrin cymdogaeth dda; ac mai drwg yw gweithgareddau sy'n malurio cymdogaeth a chymdeithas.

Rhagdybiwyd o'r dechrau y byddai diddordebau yr Eisteddfod a Chymdeithas Ddrama Cymru'n gorgyffwrdd, ond ni sylweddolwyd ar y pryd mor agos at ei gilydd oedd amcanion y ddau gorff.

"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â'r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi'r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.

Y mae'n bwysig i bob un sydd yn gweithio dros ffyniant iaith a chymdeithas gael eu gweld yn ysgwyddo baich yr anghenus yn y gymdeithas honno.

Y Prif Gyfreithiwr Erlyn oedd Daniel Alun Roberts Thomas (DART i'w ffrindiau a'i gydnabod), cymeriad os bu un erioed, tipyn yn un-llygeidiog yn achos y Gymraeg, a daeth rhai o'i sgarmesoedd gyda Chymdeithas yr Iaith yn enwog iawn ar y pryd, ond roedd yn gyfreithiwr da, a thu allan i faterion yr Iaith, yn un o farn gyfreithiol ddibynnol a sad, a'i wybodaeth o'r gyfraith droseddol yn eang a manwl.

Llond dwrn yn unig a welai Gymru yn erbyn cefndir o athroniaeth Gristnogol am ddyn a chymdeithas.

Nid mater o ddeddfu negyddol yw hi o hyd er mwyn creu rhwystrau, ond mae deddfau yn fodd i ymrymuso a rhyddfreinio unigolion a chymdeithas, creu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad, a danfon neges glir a phendant ynglñn â gwerthoedd cymdeithas.

Gall unrhyw un sy'n ymuno â Chymdeithas yr Iaith fwrw iddi yn syth.

'Roedd y pyllau wedi cau a chymdeithas wedi ei chwalu, a'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y glöwr wedi colli ei hystyr.

Mae pobl yn ymaelodi i bob pwrpas ar eu telerau eu hunain ac ni theimlant eu bod yn ymaelodi â chymdeithas y mae canllawiau cadarn i'w didoli oddi wrth bobl y byd.

Ond mynnai cymaint o lenorion fynegi eu casineb a'u ffieidd-dod at gyflwr y byd trwy ei gystwyo'n finiog, arabus a chyrhaeddgar er mwyn codi cywilydd ar ddynion a chymdeithas trwy chwerthin am eu pennau a disgwyl y newidient eu buchedd a'u harferion, nes o'r diwedd gydnabod y modd.

Dywedodd Huw Lewis, un o arweinwyr yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith, wrth baratoi am y daith gerdded gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg: 'Yr ydym wedi troi ein taith gerdded o Gaerdydd i Lundain yn daith noddedig er mwyn i'n cefnogwyr gael cyfle i gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ariannol.

Ond gall ymdrin â chymdeithas tai fod yn broses hirfaith, gymhleth, a bydd yn fynych yn golygu bod gofyn i staff mewn llochesau ddatblygu gwybodaeth arbenigol mewn maes arall eto, a hwythau eisoes â gormod o waith a rhy ychydig o arian.

Cyfeddyf, er hynny, fod athrawiaeth Maurice Barres nad yw llawn dwf yn bosibl i'r unigolyn heb ymgymysgu a chymdeithas, 'yn deilwng o astudiaeth fanwl yn enwedig i ni genedlaetholwyr.

Yn wir, rwy'n cofio'r dydd y gwawriodd arnaf gyntaf fod y fath beth a chymdeithas bentrefol yn bod o gwbl yn y Cei.

Dyma araith Branwen Nicholas i Ynadon Abergele yn yr achos llys a ddilynodd ym mis Tachwedd, lle mae'n esbonio ei rhesymau hi dros ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith dros Ryddid i Gymru Mewn Addysg.

Iddi hi, mae hanfod y ddrama'n dal yn wir heddiw - yn ei hymdriniaeth ag effaith cyni a chaledi ar eneidiau a chymdeithas.

Yn eu plith Siop Heddwch Caerdydd, CND Cymru a Chymdeithas y Cymod.

Mae'n debyg ei bod wedi newid ei thaid yn nain yn y nofel oherwydd bod hen wragedd o'r math yna yn elfen o bwys yn ei chymdeithas (sylwer ar y pwyslais ar ei nain a'i hen fodryb yn Y Lon Wen), ac hefyd fel bod Jane Gruffydd yn gallu ymuniaethu a hi.

Gall Cymru fod ar flaen y symudiad yn ôl at ddyrchafu gwerthoedd dynol a chymdeithas yn lle elw.

Daeth i sylweddoli fod Gwion yn unigolyn, yn berson a oedd yn hoffi llwyddo, ac fel yr esbonia Gwynn, 'nid yn rhan annatod o'r cyfundod a elwid y mentally handicapped.' Daeth yn weithgar gyda Chymdeithas Mencap Caernarfon a'r cylch.

Dyma l'e/ tranger clasurol yr ugeinfed ganrif, y person modern sy'n gorfod ceisio gwneud synnwyr o fywyd heb gymorth na chanllaw moesol diogel na chysur ffydd na chymdeithas safadwy.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

Testun tosturi yn peri tristwch hyd boen yw gweld darn o wlad yn wynebu difodiant ei hiaith a dinistr ei diwylliant a thranc ei chymdeithas a'i harferion a'i ffordd o fyw.

Gyda dyfodiad y Cynulliad y mae mwy o alw nag erioed am fudiad cryf i sefyll dros hawliau ieithyddol a chymunedol Cymru a Chymdeithas yr Iaith yw'r unig fudiad sy'n ymgyrchu'n radicalaidd gyda phobl a chymunedau Cymru.

O'm profiadau gyda Chymdeithas yr Iaith, roeddwn i wedi cymeryd bod y frwydr am driniaeth deg wedi'i ennill, o leiaf, yn y llysoedd.

Tra bo hi'n bosibl i gael cwmni%aeth ffrindiau llengar yn y wlad mewn ardal bendant, a chymdeithas i sgwrsio am y pethe, a mwynhau gwir ffrwythau'r awen, gyhyd â hynny y bydd rhywrai'n deall y math o fywyd yr oedd Waldo'n gynrychiolydd mor lew ohono.

Y mae dadansoddi'r cysylltiadau rhwng ffydd a chymdeithas, diwydiant a diwylliant, yn ddigon cymhleth heb i'r drafodaeth gael ei chloffi gan athroniaeth amheus.

Yr oedd adwaith i'r adeiladu - adwaith ar yr amgylchedd a chymdeithas.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.