Roedd ei theyrngarwch yn mynnu ei bod yn cysylltu â hwy hefyd, felly ffoniodd hi Megan Harris, ei chymdoges, a phwyso arni i alw arnynt.
Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.