Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chynllun

chynllun

Mae Undeb y Peirianwyr yn rhybuddio na all hyn barhau a bod rhaid i Brydain ymuno â chynllun arian yr ewro.

Trist meddwl fod arwynebedd y rhostir arbennig wedi ei gwtu%o efo coed, a chynllun adennill porfa yn lle mawnog o siglen, - cynefin y dylluan glustiog a'r cudyll bach yn prysur gilio ...

Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

Credir ei bod yn perthyn, yn ôl ei chynllun a'i phatrwm, i gyfnod cynnar yr Oes Haearn.

Yr oedd Dŵr Cymru yn barod i ymgymryd â chynllun i wella'r sefyllfa yn amodol bod cysylltiad i'w wneud i bob un o'r tai.

Er mwyn sicrhau fod modd i'r cynlluniau iaith ddylanwadu ar y broses addysgol, y mae angen yn ymarferol wahaniaethu rhwng cynllun iaith ar gyfer cyrff sirol neu genedlaethol, sydd yn ymdrin â materion gweinyddol a pholisi cyffredinol yn unig, a chynllun iaith ar gyfer sefydliadau addysgol, sydd - yn ychwanegol at faterion gweinyddol a pholisi cyffredinol - yn ymdrin â phrofiadau dysgu disgyblion a myfyrwyr unigol.

Dibynna llwyddiant pob lleoliad ar baratoi trwyadl, nodau clir, rhaglen wedi'i negydu a chynllun gweithredu effeithiol.

Mae syniadau a chynllun cynhwysfawr ar gael yn Llawlyfr Deddf Eiddo.

Ddydd Mercher, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith eu datganddiad mawr cynt' ers tro - fe fydd drafft o'u canllawiau iaith ar gyfer y sector cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi ddechrau Hydref ar gyfer ymgynghori a chynllun ar gyfer y sector preifat yn dechrau cael ei weithredu.

Deallodd Idris ei chynllun i'r dim - taflodd y bêl â'i holl nerth a'i hanelu'n union at lygad y cawr.

Dros y blynyddoedd, daeth yr arian yn elfen bwysig mewn prynu offer chwarae, trefnu tripiau a chynllun chwarae.

Yn ei chynllun hi bydd pum gwastad i lywodraeth.

Heb ddealltwriaeth clir rhwng y ddau ni ellir trafod na pholisi rhaglen na chynllun marchnata a theithio.

Rhoddir y rhif ffôn perthnasol i bob swyddfa, hostel a chynllun.

Clywsom nad oedd y cynhyrchwyr hyn yn derbyn 'cyflog'; yn hytrach, câi'r elw ei rannu rhwng pawb, gyda chynllun bonws i'r rhai mwyaf cynhyrchiol.

CYFLWYNWYD adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Cynllunio ar y sefyllfa ddiweddaraf ynglŷn â Chynllun Lleol Dwyfor.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.