Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chynnig

chynnig

Cewch anfon cynigion i'r Cyfarfod Cyffredinol ar y camau yr hoffech weld y Gymdeithas yn eu troedio, a chynnig enwebiadau ar gyfer swyddi arweinwyr grwpiau a swyddogion.

Pam gebyst na fuaset ti wedi derbyn yr ysgoloriaeth honno mewn theatrical design y cefaist ei chynnig i fynd i un o brifysgolion America pan oeddet ti'n ddwy-ar-bymtheg oed?

Un yno i geisio dal peth o gynnwrf digwyddiadau diweddar mewn ychydig dudalennau o brint, y llall yn gobeithio dysgu a chynnig help.

Ei chynnig olaf i geisio tawelu pethau oedd dod o hyd i gerddoriaeth roc eithriadol o swnllyd ar y radio a'i droi i fyny'n fyddarol o uchel.

Ymateb y Llywodraeth oedd i drïo rhannu pobl Cymru a chynnig y lleiaf i gadw pobl Cymru'n dawel.

A minnau yn ymyl talcen gwesty bychan, daeth cerbyd â'i lond o Americaniaid heibio a chynnig fy nghludo hyd ben pellaf y ffordd.

Os mai dyna be' s'gin y Sianal ddwy a dima' Gymraeg 'ma i'w chynnig, waeth inni fod hebddi ddim .

Dewch i ni obeithio taw tri chynnig i Gymru fydd hi ac y byddwn yn dod â'r Oscar yn ôl eleni.

Y diwrnod cyn achub y babi bach Abbie Humphries, fe brofodd gohebwyr Golwg ei bod yn hawdd mynd i mewn i wardiau babanod yn rhai o ysbytai Cymru a bod rheolwyr iechyd wedi'u dal rhwng diogelwch a chynnig gwasanaeth.

Yn ogystal â chynnig gwasanaeth tosoturiol, ymarferol ar gyfer menywod a phlant sy'n dioddef trais, rhaid i'r mudiad ymgyrchu i wella cyfreithiau sifil a throseddol i'w diogelu a'u hamddiffyn.

Cynhyrfwyd Newman ac aeth i weld yr esgob a chynnig rhoi terfyn ar eu cyhoeddi.

Ceisir ymdrin â phob un o'r elfennau hyn yn eu tro, gan ddisgrifio'r sefyllfa gyfredol yn y canolfannau, a chynnig ychydig argymhellion ym mhob achos er mwyn cael symud ymlaen yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf neu, lle bo'n ymarferol, yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Ac yntau wedi fforffedu'r addewid am anfarwoldeb trwy ei anufudd-dod, nid oedd dyn mewn ffordd i ymgymodi â Duw na chynnig iddo iawn dros ei bechodau ei hun.

Yn y dyfodol, gobeithir ehangu'r wefan i gynnwys tudalennau mewn ieithoedd eraill (dim ond Cymraeg a Saesneg sydd ar hyn o bryd), a chynnig mwy o wybodaeth fyth -- bydd fersiwn electronig o Faniffesto'r Gymdeithas ar gael i'r byd erbyn yr Haf.

Yr elfen Loywi Iaith trwy gynhyrchu deunyddiau byrion ar gyfer dysgu, eu cywiro eu hunain a chynnig rhesymau dros eu cywiriadau; arddywediadau; profion byrion aml ar agweddau ar gywirdeb; llunio cyfarwyddiadau i ddisgyblion ar bwyntiau gramadegol a.y.y.b.

Roedd Robin Stead allan ar y pryd ond daeth Sioned a Ben at y tri i ddathlu a chynnig llwncdestun i Rhian, Silyn a Ceri.

Mae rhwydd hynt iddynt ddilyn eu diddordebau personol a chynnig syniadau.

Mae llawer ohonynt wedi arwyddo llythyr agored at swyddogion y Llyfrgell yn gofyn iddyn dynnu'r gwahoddiad yn ôl a chynnig yr anrhydedd i rhywun mwy cymwys.

A chynnig cyfaddawd oedd yr un a basiwyd; ac fel hyn y bu.

Daeth hen wraig radlon ato a chynnig iddo lwnc o laeth.

'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol.

Yn raddol, gwelid trafaelwyr o'r trefi ac o Loegr yn galw heibio i'r seiri gwledig a chynnig iddynt fylau i olwynion wedi eu tyllu'n barod.