Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chynnydd

chynnydd

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.

Yn wir, dylai fod yn amlwg o'r ddogfen hon fod mwy i weledigaeth y Bwrdd o natur a lle'r iaith Gymraeg ar ddiwedd y cyfnod dan sylw na chynnydd yn nifer ei siaradwyr.

Ac felly y lluniwyd trefniadaeth glos a oedd cyn bo hir, gyda chynnydd y mudiad, i greu rhywbeth tebyg iawn i enwad.

Ond, ac yntau'n un o dras amaethyddol ac, o ran anian, yn gredwr mewn datblygiad a chynnydd, mae ei adroddiadau hefyd yn taflu goleuni ar America'r wlad fawr, flaengar, gyda'i diwydiannau cotwm ac olew, ei ffatri%oedd caws a'i bwydydd anghyfarwydd; roedd hefyd yn anelu at roi gwybod i'r Cymry gartre' am fywyd eu cyd-wladwyr a ymfudodd tros yr Iwerydd.

Gyda chynnydd mewn poblogaeth, diwydiant, technoleg ac angen yn y Gogledd Orllewin; a chan fod rhwydwaith y nentydd a'r dyffrynnoedd pantiog bychan yn ddelfrydol i'w boddi...

Er y cymylau cyson fe welwyd haul ar fryn yma ac acw, ac er y dirwasgiad hirhoedlog cafwyd llwyddiant a chynnydd yma o fewn yr eglwys yn Seilo a hefyd o fewn yr eglwys yn y byd.

Cyfnodolion Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd a'i bwyslais ar y Beibl, yn ogystal â chynnydd yr Ysgol Sul, oedd creu miloedd o ddarllenwyr newydd.

'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol ym 1911 pan goronwyd Siôr y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr.