Look for definition of chynulleidfa in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
O stiwdio Barcud, Caernarfon y bydd Nia a Rhodri yn cyflwyno holl fwrlwm y noson fawr gyda chynulleidfa fyw, adloniant a wynebau adnabyddus yn cymryd rhan ac yn ymuno yn yr hwyl yn ystod y rhaglen.
Rhaid i ni oedi i ystyried y ddogfen eithriadol hon, a cheisio dyfalu'r effaith a gafodd ar ei chynulleidfa wreiddiol.
Rhoddwyd croeso calonogol i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i BBC Radio Cymru fynd ar daith am wythnos o Gaergybi i Fae Caerdydd yn Taith y Cynulliad, gan barhau ag athroniaeth y sianel o estyn allan i'w chynulleidfa.
Roedd yn siarad â chynulleidfa fodlon a deallus a pharod i gytuno, er bod ambell un, mae'n siwr, yn ystyried bod ymchwiliad pellach yn ddianghenraid, gan mor ddigwestiwn oedd y ffeithiau eisoes yn ymddangos.
Mae'r Cyngor yn falch bod talent cynhyrchu newydd wedi ei ddenu i'r sebon dyddiol Pobol y Cwm gan fod y rhaglen honno hefyd yn wynebu cystadleuaeth fwy ffyrnig o'r rhwydwaith am ei chynulleidfa min nos.
Byddai'n well gan Mr Reagan ruthro adref i'r Tŷ Gwyn er mwyn siarad yn gartrefol ar deledu'r Unol Daleithiau gyda chynulleidfa anweledig oedd ddim yn ateb yn ôl.
Os byddwn ni'n gweld lleihâd mewn newyddion, gostyngiad mewn safon a chynulleidfa, yna bydd raid i lywodraethwyr y BBC ystyried yn galed beth maen nhw'n mynd i wneud," meddai.