Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chynyddu

chynyddu

Bu'n ystyried rhoi tipyn o bella donna i Arabrab yn ei phicl-wynwyn, a chynyddu'r dos yn araf, ond doedd o ddim yn siŵr a oedd hi wedi gwneud ei hewyllys.

Dibynnu ar eich siniciaeth, ond a bod yn glên am change, mae'r gwleidyddion yn mynnu oherwydd eu rhwystredigaeth gyda'u hanallu i newid y sefyllfa, mae'r Quangos yn mynnu er mwyn diogelu a chynyddu eu safle eu hunain.

Rydym am barhau i wneud hyn oll, gan adeiladu ar ein hymrwymiad i deledu digidol yng Nghymru a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cwrdd â phobl wyneb yn wyneb a chlywed eu barn.

Rhaid gwneud ymdrech i ymestyn y tymor twristiaeth a chynyddu gwariant y twristiaid er mwyn creu swyddi sydd yn talu'n well, ac ar hyd y flwyddyn gyfan.

Yr oedd hwnnw'n galw am fynd yn ôl at symlrwydd y Testament Newydd, gan bwysleisio ochr ddeallusol ffydd, gweinyddu'r Cymun bob Sul a chynyddu nifer yr henuriaid yn yr eglwysi.

Newid eich arferion bwyta Mae gwneud newidiadau mewn arferion bwyta, er mwyn cwtogi ar fraster a siwgr yn eich diet a chynyddu ffibr gaiff ei fwyta, yn bwysig er mwyn cynnal iechyd da.