Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

chyrraedd

chyrraedd

Roedd hefyd yn rhan o'r fintai a gymerodd ran yn ymosodiad y Bay of Pigs, ond methodd ei gwch â chyrraedd y lan.

Cyn iddi ei chyrraedd chwalwyd un o'r cwareli'n siwrwd man a landiodd homar o garreg ar draed y gwely a bownsio wedyn i'r llawr.

Rhuthrodd Stevens i agor bwlch o bedair ffrâm a chyrraedd 5 - 1.

Estyn gadair, tyrd at y bwrdd a chyrraedd at y bwyd a'r ddiod.

Disgwylir i chwi ddod i bob sesiwn a darlith a chyrraedd yn brydlon.

Roedd yn rhaid i mi sefyll ar ben pwcad i fedru'i chyrraedd hi, ond rargian, erbyn i mi orffan, ro'n i'n teimlo bod 'y mraich i am syrthio i ffwrdd!

Camp raenus oedd ei gwrs addysg trwodd a thro, a chyrraedd ei uchafbwynt trwy gipio'r prif wobrwyon yn Rhydychen a'i ethol yn Gymrawd o Goleg Lincoln, a dyfod yn un o ddarlithwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol.

Ymsefydlasant yng Nghaerlleon ar Wysg cyn dechrau gwthio eu ffordd i'r gorllewin a chyrraedd Caerfyrddin.

'Democratiaeth wedi mynd yn wallgof, 'ddyliwn i.' Pwysodd yn ôl yn erbyn y silffoedd a oedd bron â chyrraedd y nenfwd, gan sipian ei goffi.

Methodd y gwibiwr o Gasnewydd, Christian Malcolm, a chyrraedd rownd derfynol y 60 metr ym Mhencampwriaethau Athletau Dan-do y Byd yn Lisbon.

Roedd gwasg yr oes aur yn adlewyrchiad o Gymru gymhleth oedd bron â chyrraedd y lan.

Pwnc ar gyfer cyfrol arall - ddifyr a diddorol rwy'n siwr - fyddai sut i ddod o hyd i gariad a chyrraedd y cyflwr o ddyweddio lle mae'r llyfryn hwn yn cychwyn.

Roedd trimins yn cael eu cnoi yn ddim a bu bron i'r Santa bach fethu a chyrraedd pen y goeden mewn un darn.

Ond cyn imi gael amser i gerdded ar draws yr ystafell a chyrraedd ei phen pella yr oedd y cwbwl oll wedi diflannu.

beth sydd yn digwydd i blant wrth iddynt groesi plentyndod a chyrraedd eu harddegau a'u hugeiniau cynnar.

Gobaith Robert Croft yw y gall Morgannwg ailadrodd camp llynedd a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Davies oedd yr arolygwyr ym Mhwllheli; y mae'r ddau wedi'n gadael erbyn hyn Dreifio fu hanes DS cyn cael ei ddyrchafu'n arolygwr a chofiaf unwaith fod yn ofalydd ar ei fws, a chyrraedd i mewn i Bwllheli ymhell o flaen yr amser a nodwyd ar yr amserlen.

Cychwynnodd unwaith o Ucheldiroedd yr Alban am Glasgow ar ddydd lau, a chyrraedd Cyffordd Llandudno fore Sul.

Yr olaf a ddewisais a chychwyn mewn bws am hanner awr wedi pump o Lerpwl a chyrraedd Caeredin am hanner dydd.

Ond ymhell cyn iddyn nhw'i chyrraedd dechreuodd y milwyr daflu picelli a gwaywffyn.