Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cic

cic

'Hefyd, o'n i'n meddwl i sawl cic gosb fynd yn ein herbyn ni ac o'n i ddim yn deall pam.

Felly mewn ffordd roedd o'n benderfyniad hollol bragmatig, ond fel mae'n digwydd mae o'n bendant yn rhywbeth yr ydw i'n cael cic ohono fo, felly mae o'n gweddu i'r dim.

Yn ôl ei disgrifiad hi o'r Sais a fun spario efo Naseen Hamed gallai rhywun yn hawdd faddau iddi hi am roi cic iawn iddo yn ei wendid.

Yna cic rydd gan John Frain a pheniad gan Ian Sampson a roedd y sgôr yn gyfartal.

LOGO I CIC Ffurfiwyd Clwb i'r Campau (CIC) yn Steddfod Llambed.

Cic o'r smotyn gan Scott McCulloch wedi munud a phymtheg eiliad yn rhoi Caerdydd ar y blaen.

Daeth y cais cyntaf o'r chwech pan gafodd Castell Nedd sgrym bump ar ôl i Luc Evans ddal cic letraws Steve Bowling, ac er syndod i bawb, gwthiwyd wyth Llanelli dros eu llinell a chwympodd Gareth Llywelyn, yr wythwr, ar y bêl.

Newidiodd patrwm y gêm yn llwyr yn yr ail hanner, gan ddechre gyda phedwaredd cic gosb Phil, cic o ddeg llath ar hugain.

Paul Danson yn rhoi cic o'r smotyn roddodd bwynt i Swindon.

Yr oedd siocled hefyd, yn beth mor effeithiol i roi cic yn nhin cyneddfau rhywiol pobl y penderfynodd y Sbaenwyr beidio â dweud wrth neb arall amdano fo ac fe fuo nhw'n croesi'r moroedd efo fo am flynyddoedd heb i neb arall sylweddoli beth yn union oedd o.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

Cyd-berchennog Bragdy Cic Mul.

Mae angen logo i CIC.

Aeth cic gornel Andy Legg yn syth yn erbyn y postyn a roedd angen chwaraewr canol i reoli'r bêl a'r gêm.

Am gyfnod helaeth, dyna, yn wir, oedd y sefyllfa, ond yn ffodus, ni throsglwyddwyd meistrolaeth y cryse duon yn bwyntie, ac eithrio cic gosb gan John Poole.

Yn yr hanner cynta, roedd y sgrifen ar y mur o safbwynt tîm y ddinas, gan i Phil Bennett drosi tair cic gosb allan o dair, tra llwyddodd Caerdydd i ymateb gydag un gic adlam o droed Gareth Edwards.

Y blaenwyr Dyfarnwyd pedair cic gosb ar bymtheg gan Gareth Simmonds (yr oedd un o'r llumanwyr o Gaerloyw, sef John Roberts), deuddeg ohonynt i'r Cochion, llai nag arfer am droseddau yn y ryc er bod pob blaenwr â'i fryd ar ennill yr ail feddiant.

Cic rydd Gary McAllister yn yr eiliadau olaf enillodd y gêm pan oedd hi'n edrych yn debyg taw cyfartal 2 - 2 fyddai'r sgôr.

Daeth gôl gynta Lerpwl gan Emile Heskey ar ôl cic gornel gynta'r gêm.

Bron nad oes angen cofnodi i Phil drosi'r gais, gan iddo lwyddo saith gwaith gyda saith cic y prynhawn hwnnw.

'O'n i'n gwbod bydde hi'n agos iawn yn enwedig ar ôl iddyn nhw sgori cais wedi'r egwyl - ond cic yn y penôl geson ni,' meddai.