Ymatebodd CiF
Mae CiF yn rhannu'r arian hwn o dan drefniant arbennig gyda'r Apêl, i sicrhau y bydd plant yn ein holl grwpiau yn elwa.
Mae CiF wedi parhau i fod yn weithgar ym maes cyffredinol gofal am blant yng Nghymru, ac mae wedi cefnogi'r camau 'Plant yng Nghymru' newydd i ddatblygu corff aml-asiantaeth i hyrwyddo lles plant yng Nghymru.
Yn y flwyddyn o'n blaen gobeithiwn gyflogi ymchwilydd annibynnol i wneud astudiaeth fanwl o anghenion tai CiF.
Dywed Mr Patten yn glir (fel y mae CiF wedi ei ddweud ers blynyddoedd lawer) bod trais yn y cartref yn drosedd mor annerbyniol ag un a gyflawnir gan ddieithryn.
Mae aelodaeth o'r grŵp Heddlu a'r Gyfraith yn agored i bob menyw yn y mudiad sydd am gymryd rhan yn bennaf mewn dwy agwedd ar waith CiF ymgyrchu ar yr naill law, a hyfforddi Heddluoedd Cymru ar y llall, gan geisio hyrwyddo gwell dealltwriaeth o sefyllfa anodd a pheryglus dros ben, menywod a phlant a beryglir gan drais gan yr union berson ddylai fod yn eu hamddiffyn.
Er mwyn hwyluso a rhoi ffurf i'r broses hon, datblygodd y Grŵp Prosiectau Arbennig o fewn Cymorth i ferched yng Nghymru, sy'n cynnwys gweithwragedd llochesau menywod sy'n gweithio yn maes tai, a gweithwraig tai CiF nifer o fodel-gytundebau.