Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cil

cil

Gêm gyfartal, felly, a digon i Alan Cork gnoi cil yn ei gylch.

Mewn cyfrol fer o 116 tudalen y mae'n agor cil y drws ar fyd sydd, diolch i'r drefn, yn ddieithr i'r rhan fwyaf ohonom.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

Mae'n credu hefyd mai natur yr hwch sydd yn y borchell, a hynny'n llythrennol wir am Culhwch, a aned o'r cil rhwng yr wrethra a'r rhefr ac a faged gyda'r moch.

Fe geisies i dynnu sgwrs a Luned yn i gylch e, ond doedd gan honno fawr ddim i weud wrth neb ar ol y briodas, ac fe anghofiodd pawb am y peth yn union y daeth stori arall i gnoi cil arni.

Gwrthodant gyfrannu tuag ati neu gyfrnnu cil-dwrn tuag ati oblegid mai sefydliad Cymraeg yw hi.

Fel y dengys hanes.) Digon gan hynny yw i mi ddweud i'r sant ddinoethi ei fonau cil ym Mwlchderwin y pnawn hwnnw a brathu f'asgell.

Ar yr un trywydd byddwn yn arbrofi gyda noson Garioci Gymraeg neu ddwyieithog efo'n hir er mwyn agor cil y drws ymhellach i ganu pop neu roc Cymraeg.

Gwyddys, wrth gwrs, fod rhai anifeiliaid megis ceirw, defaid, geifr a gwartheg yn cnoi cil.

Toc, mentrodd agor cil ei llygaid i edrych yn llechwraidd o'i hamgylch, gan ddisgwyl gweld rhywun yn camu o'r tywyllwch.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Dyna'r creaduriaid llonydd yn cnoi'r cil yn dawel tra byddwch yn datod y cadwyni o'u gyddfau.

Does dim gofyn inni gnoi cil, dim ond derbyn barn un sy'n gwybod.

A minnau wedi disgwyl gweled y baedd yma hefyd yn ffornochio ac yn codi ei drwyn tua'r nef mewn ysgrech o fygythiad, a dangos cil- ddannedd fel cilbostiau adwyon wedi eu gwneud gan yr hen bobl.

Cafwyd noswaith ddifyr a rhoddwyd croeso hefyd i Mr Cledwyn Jones mab Mr a Mrs Haydn Jones, Cil-y-Garth o Galgari, Canada oedd ar ymweliad a'i dad, sydd yn wael yn ysbyty Minffordd.

Felly sylwn yn fanwl ar bopeth a wnâi a cnoi cil ar gymaint ag y gallwn ei gofio o'r hyn a ddywedai.