Yn hytrach amrywiad ydyw neu yn fwy tebygol ffurf luosog y gair casas "tro mewn afon, cilfach o for, bae%.
Afraid sôn am gryfder y Saesneg yn ein cymdeithas yn gyffredinol; mae'n treiddio i bron bob cilfach ohoni, yn yr ardaloedd gwledig fel yn y trefi a'r dinasoedd.
Ei gartref ef a rhai o'i hynafiaid oedd Llwyngwychwyr, y ffermdy mewn cilfach gysgodol rhyw ychydig bellter i gyfeiriad Llanwrtyd o dre Cefn Alltwinau.
Mae afon Cafnan yn tarddu yn Llyn Llygeirian ym mhlwyf Llanfechell ac yn llifo tua'r gogledd i'r môr ym Mhorth y Pistyll, cilfach fechan ar ochr orllewinol Trwyn y Wylfa.
Mewn cilfach sych a chysgodol, ar ol bwyta'n fras, mae'r cysgaduriaid fel y draenog a'r pathew yn gaeafu, a churiad eu calon a'u hanadlu wedi arafu yn arw.
Adeiladem y rafft gyfrinachol yn hwyr y dydd mewn cilfach yn y coed wrth ymyl y llyn.