Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ciliai

ciliai

Daethant yn fwy hyf a ffyrnig fel y ciliai awdurdod y Rhufeiniaid, nes dod yn bla ar y wlad a rhaid oedd ceisio'u gorchfygu.

Ciliai Sioned o'i gŵydd yn y swyddfa a thueddai Ben, hyd yn oed, i'w hosgoi.

Weithiau deuai i'r golwg fel petai awel yn ei chwythu tuag ato, yna ciliai drachefn a gadael yr awyr yn las uwchben.

Wrth iddo sgrialu ymaith, ciliai'r iaith Gymraeg i'w ganlyn.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.

Gwenent hwythau hefyd, er bod ambell i wg weithiau pan gâi rhywun arall chwarae ran Mair yn nrama'r Geni, ond ciliai'r wg wrth i'r hen ŵr gydio yn eu dwylo wrth gerdded o'r perfformiad.