Mae'n rhaid fod Datini wedi cipio'r llong.
Mae'r cwestiwn yn amserol i ninnau yng ngwledydd Prydain hefyd yn awr fod awdur o Ganada wedi cipio Gwobr Booker unwaith eto.
Dim ond un wiced yr un gafodd Andy Caddick ac Ian Salisbury yn y ddau brawf ac efallai bod cyfle i gynnwys Matthew Hogan y bowliwr cyflym sy wedi cipio 17 o wicedi ar y daith.
Un rheswm oedd nad oedd hi'n bosib' adnabod y cyrff y daethpwyd o hyd iddyn nhw yn y meysydd gwaed, a'r llall am fod cymaint wedi cael eu cipio gan y Khmer Rouge a diflannu am byth.
Roedd toi rhai o'r tai yn cael eu chwalu, y drysau a'r ffenestri'n clecian ac, yn wir, roedd hi'n rhy beryglus i bobol fynd allan ar adegau rhag ofn i'r gwynt eu cipio.
Cafwyd bowlio arbennig gan y troellwr Saqlian Mushtaq - yn cipio pob un o wicedi Lloegr.
Roedd Nixon McLean wedi cipio tair wiced yn ystod y bore.
Caerfyrddin oedd y tîm amlyca yn yr ail hanner a chyda'r gôl hwyr yn cipio'r tri phwynt.
Roedd colledion Mengistu yn enfawr, ac am flynyddoedd bu'r fyddin yn cipio bechgyn yn eu harddegau o'u cartrefi yn Addis ganol nos.
Ateb Teyrnon i'r ymgais gyntaf am ddial oedd trais: fe dorrodd fraich yr anghenfil a oedd wedi cipio'r plentyn.
Doedd neb am symud y blociau anferth o goncrit a rwystrodd y milwyr Sofietaidd rhag cipio'r adeilad bryd hynny.
Bu'r Cwrdiaid eu hunain yn rhy ofnus i wrthwynebu'r cynllun yn agored oherwydd ei sefyllfa wan yn dilyn cipio Abdullah Öcelan a'i roi ar brawf. Hasankeyf
Gwynoro Jones, Llafur, yn cipio etholaeth Caerfyrddin oddi ar Gwynfor Evans.
Cipio'r merched i waith rhyfel a roes derfyn arno.
Yn yr amgylchiadau nid syn yw clywed fod Daniel Owen wedi dechrau colli ei gwsg yn ceisio barddoni er mwyn cipio'r llawryf mewn gwahanol gystadlaethau: Nid oes edefyn cyson o ddylanwad a dynwarediad clasurol yn rhedeg trwy leynyddiaeth Gymraeg, o'r math sydd yn hawdd ei ganfod mewn llenyddiaethau eraill megis y Saesneg, y Ffrangeg neu'r Almaeneg.
Yr oedd Steve Watkin yn anlwcus dros ben i fethu cipio wiced Ryan Driver yn ystod batiad yr ymwelwyr.
Yna, dair blynedd yn ddiweddarach, fe ddaeth llwyddiant cenedlaethol i'n rhan am yr eildro pan gynhaliwyd y gystadleuaeth yn Aberystwyth a Maesywaen yn cipio'r tlws gyda Phrysor ac Eden yn ail iddynt y tro hwn eto.
Daeth yr alwad yn sgîl ei gamp yn cipio wyth wiced i Forgannwg yn erbyn y tîm o'r Caribî yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd Crofft hwyl â'r bêl hefyd, yn cipio 2 wiced am 39 rhediad.
Nid oedd Ap Vychan o blaid cael offeryn chwaith ac ar ôl pasio'r penderfyniad i gael un, ei sylw wrth y gynulleidfa oedd, "Hwyrach y byddai gystal ichwi fynd ymlaen i brynu mwnci!" Ond er gwaethaf pryderon y beirniaid, dal i fynd o nerth i nerth yr oedd y canu, gyda'r côr yn cipio'r gwobrau yn yr eisteddfodau.
Mae Doli Stryd y Glep 'fel swigen sebon o bibell bridd', a'r gwynt yn cipio 'plu ysgafn ei siarad'.
Seiliau cadarn i'n tai a seiliau cadarn i'n bywydau i'n cynnal pan fydd gofalon byd yn pentyrru arnom, a phoen a phrofedigaeth yn cipio'r llawr oddi tanon ni.
Mae Robert Croft wedi bowlio'n dda - wedi cipio wiced am 41 oddi ar 16 pelawd.
Pa bryd, os erioed, y gwelwyd llyfr Cymraeg yn cipio dychymyg pobol i'r fath raddau dydw i ddim yn gwybod.